Hysbysebu

Hysbysebwch ar wasanaeth newyddion annibynnol Cymru

Pam hysbysebu ar Golwg360?

Dyma bump rheswm da i chi hysbysebu ar Golwg360

  1. Golwg360 yw’r unig blatfform newyddion cenedlaethol lle gellir hysbysebu’n gwbl effeithiol trwy gyfrwng y iaith Gymraeg
  2. Dros 7000 o ddarllenwyr dyddiol, yn darllen dros 1,000,000 o dudalennau y mis
  3. Pecynnau amrywiol i’ch siwtio eich anghenion penodol chi
  4. Ar gyfartaledd, bydd eich hysbyseb yn ymddangos 24,000 o weithiau ar hap dros gyfnod o wythnos
  5. Y cyfle i dargedu cynulleidfa newydd mewn ffordd fodern a chyffrous

Hysbysebu ar y we – ffordd effeithiol i hyrwyddo

Mae hysbysebu ar y we yn ffordd effeithiol iawn o hyrwyddo unrhyw gynnyrch, digwyddiad neu fusnes. Mae’n effeithiol gan bod modd i chi gyfathrebu eich neges ar nifer o lefelau, a chadw cyfrif o’r diddordeb yn yr hyn yr ydych yn ei hyrwyddo.

Trwy gymryd hysbyseb MPU ar wefan newyddion Golwg360, mae modd i chi gael y neges sylfaenol ar draws i’r gynulleidfa darged yng nghorff yr MPU, fel y byddech yn gwneud gyda hysbyseb yn y wasg draddodiadol. Cryfder y we yw bod modd i bobl gael mwy o wybodaeth os yw’r neges sylfaenol yn eu diddori, ac fel rhan o’ch hysbyseb ar Golwg360 mae modd i chi gael dolen i unrhyw dudalen arall ar y we lle gall pobl ffeindio rhagor o wybodaeth.

 

Yn ogystal â manylion fformat hysbysebion, ceir manylion llawn am brisiau hysbysebu yn ddigidol ac mewn print yn y pecyn cyfryngau.

Am fwy o wybodaeth neu i drefnu hysbyseb cysylltwch â ni ar hysbysebion@golwg.com neu ffonio 01570 423 529