Mae Dewi Thomas BSc MSc o Ysgol Feddygaeth Prifysgol Abertawe yn gweithio ar ymchwil PhD a allai arwain at brawf newydd i ddod o hyd yn gynt i un o glefydau mwyaf marwol y byd.

Mae sepsis yn gyflwr adnabyddus ac yn un sydd wedi’i ddogfennu ers sawl canrif. Serch hyn, nid yw’r cyflwr wedi denu llawer o sylw yng nghyd-destun datblygiadau meddygol rhyfeddol y byd cyfoes. Mae’n bryd newid hynny.

 Beth yw sepsis?

Mae sepsis yn datblygu o fewn unigolion ar ôl iddynt ddatblygu haint p’un ai a yw’n datblygu y tu mewn neu’r tu fas i amgylchedd clinigol.

Gall unigolion ddatblygu heintiau trwy anafiadau bwriadol megis llawdriniaethau neu yn anfwriadol trwy anaf neu drawma. Mae’r haint yma yn gorlwytho systemau rheoli’r corff ac yn datblygu proses docsig sy’n arwain at straen anferthol ar systemau mewnol y corff. Gall hyn arwain at fethiant organau ac yn aml at farwolaeth.

Diagram yn dangos effaith sepsis ar y corff

 Ffigwr 1: Datblygiad sepsis yn y corff. Mae camau 1-5 yn dangos sut mae sepsis yn mynd o fod yn haint i fod yn gyflwr adnabyddus a pheryglus.

Pam fod sepsis yn broblem?

Ar hyn o bryd, gan ddefnyddio’r dull safonol o wneud diagnosis mae’n cymryd hyd at bump neu chwe diwrnod i dderbyn canlyniadau gwaed unigolion yr amheuir eu bod yn dioddef o sespsis. Nododd astudiaeth a ymddangosodd yng nghyfnodolyn ‘The Lancet’, mai sepsis yw’r cyflwyr sy’n lladd y mwyaf o bobl yn y byd – mwy na chanser, er enghraifft.

Mewn ymchwil arloesol darganfu gwyddonwyr o America bod 48.9 miliwn achos o sepsis ar draws y byd yn 20171. Mae hyn yn cynrychioli 19.7% o’r holl boblogaeth bu farw yn 20171.

Mewn gwirionedd  mae modd trin sepsis os yw’r diagnosis yn gyflym ac os yw unigolion yn derbyn gwrthfiotigau penodol. Y cyflymaf y bydd unigolion yn derbyn triniaeth y mwyaf o siawns sydd ganddynt i oroesi, a’r lleiaf o faich y mae’r cyflwr yn ei roi ar y corff.

Beth yw’r dulliau safonol sy’n cael eu defnyddio ar hyn o bryd?

Mae’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol  a nifer fawr iawn o wasanaethau iechyd eraill yn dibynnu ar wneud diagnosis gan ddefnyddio system o sgorio symptomau unigolion. Mae’r gwasanaethau iechyd wedi dibynnu ar y dull yma o wneud diagnosis am nifer o ganrifoedd.

Nid yw’r dull yma o sgorio yn ddibynadwy nac yn fanwl gywir. Mae’r meini prawf yn cynnwys mesur tymheredd, cyfradd curiad y galon, pwysedd gwaed a chyfradd anadlu2. Y brif broblem gyda’r dull yma yw’r ffaith nad yw’n ystyried sefyllfaoedd unigolion nac unrhyw gyflyrau sy’n bresennol ac a all effeithio ar symptomau septig cleifion. Mi fydd hyn yn golygu bod unigolion positif am sepsis yn derbyn cam-ddiagnosis, ac unigolion negatif yn derbyn triniaeth trwy gamgymeriad. Mae hyn wrth gwrs yn gallu arwain at nifer fawr o broblemau a chymhlethdodau eraill.

Ffigwr 2: Symptomau cyffredin wrth i unigolion ddatblygu sepsis. Dyma’r symptomau mwyaf cyffredin yn ôl GIG2.

Beth am y dyfodol?

Os na fydd unrhyw ddatblygiadau cyflym yn y maes hwn gall nifer o bobl marw’n ddiangen gan nad oes mesuriadau priodol ar gael i’w hachub. Mae’n wir angenrheidiol i wyddonwyr ddatblygu a manteisio ar ddatblygiadau technolegol diweddar i herio mathau o ddiagnosis er lles cleifion. Un ffordd o wneud hyn fyddai edrych ar ddulliau i leihau’r amser y mae’n ei gymryd i wneud diagnosis cadarn. Ffordd arall o wneud fyddai edrych ar y clefyd o ongl wahanol a datblygu dulliau newydd o feysydd arbenigol gwahanol megis rheoleg a pheirianneg feddygol.

Dyma lle rwyf yn gobeithio gwneud cyfraniad! Dw i newydd gychwyn fel myfyriwr PhD ar brosiect sydd yn bwriadu gwella systemau clinigol o wneud diagnosis ar gyfer sepsis, trwy greu a dyfeisio dulliau newydd o ddadansoddi gwaed claf. Y gobaith yw datblygu profion gwaed newydd a fydd yn gallu gwneud diagnosis manwl o sepsis mewn dwy neu dair awr yn hytrach na rhwng pump a chwe diwrnod. Mi fydd hyn yn fantais i gleifion gan y bydd triniaeth yn gyflymach ac yn codi’r siawns o oroesi’r clefyd adnabyddus a difrifol yma.

Cyfeiriadau

  1. Kempker, J. A. & Martin, G. S. A global accounting of sepsis. Lancet 395, 168–170 (2020).
  2. Wales, N. Encyclopaedia: Sepsis. GIG Cymru(2020). Cyfeiriad:

https://111.wales.nhs.uk/Encyclopaedia/s/article/sepsis/?locale=cy