Dr Gethin Matthews, Uwch-ddarlithydd yn Adran Hanes Prifysgol Abertawe, dan nawdd y Coleg Cymraeg Cenedlaethol, yn ystyried rhai o gofebau ‘coll’ Cymru

Wrth i’r Rhyfel Mawr fynd rhagddo, ac yn y blynyddoedd wedi iddo orffen, roedd cymunedau ar draws Prydain ac yn y gwledydd eraill a brofodd y gyflafan yn ceisio dod o hyd i ffyrdd o goffáu ac anrhydeddu cyfraniad y sawl a ymladdodd a’r rhai a laddwyd. Yn ogystal â chofebau dinesig, trefnodd sefydliadau lleol eu cofebau eu hunain: capeli ac eglwysi, ysgolion, gweithleoedd a chlybiau (chwaraeon, gwleidyddol, a chymunedol).

Mae’r amrywiaeth ymhlith y cofebau hyn yn rhan o’u harwyddocâd. Ni ddywedodd unrhyw un wrth y sefydliadau hyn sut i fynd ati na beth y dylen nhw gomisiynu. Hwy eu hunain ddewisodd y delweddau a’r geiriad ar y cofebau, ac maent yn cynnig cipolwg o’r ffordd y deallai’r bobl hyn y rhyfel a oedd newydd orffen.

Mae’r cofebau ‘answyddogol’ hyn yn fregus – ni all unrhyw un ddweud sawl un a gollwyd dros y degawdau wrth i gapeli gau, ysgolion gael eu hail-leoli a chlybiau newid eu henwau a’u pwrpas. Gwelir y casgliad gorau o wybodaeth am gofebau rhyfel Prydain ar fas data’r Imperial War Museum (IWM – ar gael i’r cyhoedd ar  https://www.iwm.org.uk/memorials ). Ac eto, darniog yw’r cynnwys am y cofebau ‘answyddogol’ yng Nghymru. Tybiaf y gallai fod llai na thraean cofebau capeli Cymru wedi eu cofrestru yno – felly mae’n bosibl bod sawl cant ohonynt ar goll.

Gellir dod o hyn i rai o’r cofebau hyn ar gasgliadau eraill. Ymhlith y gorau o’r rhain mae Prosiect Cofebau Gorllewin Cymru – https://www.wwwmp.co.uk/ – Prosiect Cofebau Sir y Fflint – http://www.flintshirewarmemorials.com/ – a Phrosiect y Rhyfel Byd Cyntaf Grangetown, Caerdydd – http://188.65.112.140/~daftscou/steve/grangewar18.htm . Yr adnodd gorau ar gyfer unrhyw sir yw First World War Graves and Memorials in Gwent gan Ray Westlake, a gyhoeddwyd mewn dwy gyfrol, yn 2001 a 2002.

Cofebau Ponthir

Ymhlith cofebau capeli a geir ar wefan IWM fe welir un Sion neu Zion, capel y Bedyddwyr ym Mhonthir (rhwng Caerleon a Chwmbrân). Fe’i gwelir hefyd yng Nghyfrol 1 o lyfr Westlake.

Mae ei gynllun yn nodweddiadol o gynllun dirodres cofebau rhyfel llawer o gapeli Cymraeg. Mae’n enwi pedwar ar hugain a fu farw, a’r geiriau arno yw Ioan 15:13, geiriau a welir fwyaf aml ar gofebau. Fe’i dadorchuddiwyd ar 30 Mehefin 1921 (deuddydd a dwy flynedd ar ôl llofnodi cyfamod heddwch Versailles) – ac felly mae hon yn fwy diweddar na’r mwyafrif o gofebau capeli. Yn wreiddiol rhoddwyd ffrâm dderw o’i chwmpas, ond symudwyd hwnnw yn 1979 am fod y pren yn pydru.

Fodd bynnag, roedd dwy gofeb arall i’r Rhyfel Mawr yn y capel. Cofnodwyd un pan ysgrifennwyd hanes yr achos yn 1934, ond mae hon bellach ar goll. Dyma ffotograff o George Jarrett, a osodwyd o flaen drws ysgoldy’r capel, ac, wedi ei hysgythru ar blât pres, y geiriau:

THEIR PATH OF DUTY WAS THE WAY TO GLORY

GEORGE MAXWELL JARRETT

1892 – 1917

Faithful Teacher and Superintendent of this School

Fell fighting for his country in France Aug. 14th 1917

Mae’n debyg y gellir dod o hyd i fwy o luniau’r dynion a syrthiodd mewn papurau newydd lleol, ond yr unig sy’n hysbys i mi ar hyn o bryd yw cyfeiriad at Harry H. Stephens, 19 oed, a fu farw ar 28 Mehefin 1918. Ceir llun ohonno ar wefan Shaun McGuire –

http://mw.shaunmcguire.co.uk/images/llanfrechfa/stephens_hh_llanfrechfa.jpg

Mae cofeb arall i’r Rhyfel Mawr yn hongian ar wal y capel, ond ni welir hwn ym mas data IWM na llyfr Westlake. ‘Rhestr Anrhydedd’ yw hon, sy’n enwi pob un o’r 70 o aelodau a wasanaethodd yn y rhyfel, yn ogystal â’r sawl a syrthiodd (24 ohonynt). Mae’n debygol i Westlake fethu hon am iddi orwedd am rai degawdau mewn cwpwrdd ac na chafodd ei hadfer i olwg y cyhoedd tan yn gymharol ddiweddar.

Darlun o ferch a rhestr o enwau'r colledig
Darlun o fenyw debyg i ‘Britannia’ ar restr anrhydedd y capel ym Mhonthir

Fel eiddo llawer o gapeli, mae’r gofeb hon yn gyfoethog a diddorol. Bob ochr i enwau’r sawl a wasanaethodd y mae delweddau o ferched tebyg i Britannia yn dal picelli triphen. Ceir llawrwydd wrth ochr y sawl a syrthiodd, ac yn dal baner sy’n dweud ‘Roll of Honour’  mae dau lew yn rhuo. Ar y top, islaw coron, ceir y geiriau ‘For King and Country’.

Ar y gwaelod dywedir mai Llwyd Roberts o Gasnewydd biau’r cynllun, â’r hawlfraint yn eiddo i Joyce a’i Feibion. Roedd yn arfer gyffredin i gapeli gomisiynu lluniadur lleol i gynllunio cofeb iddynt.

Nid yw gweld 94 o enwau ar gofebau capeli Cymraeg yn anarferol. Mae gen i ddeugain o gofebau ble gwelir dros 70 o enwau. Ond un ffactor anarferol yn y gofeb hon yw canran y sawl a fu farw. Yn y mwyafrif o gapeli gwelir bod y canran o’r rhai a syrthiodd rhwng 9% a 15% (er yn achlysurol ceir capeli ‘ffodus’ gyda chanran is na 5%). Y ganran ar gyfer Capel Sion yw 25.5%. Pam, tybed, oedd ffawd mor greulon i aelodau Sion?

 

Cofiwch ymwela â gwefan cyfnodolyn Gwerddon – http://www.gwerddon.cymru/cy/hafan/