Rebecca Thomas a David Callander yn egluro sut y gall gwybodaeth o’r Gymraeg eich helpu, efallai, i ddarogan diwedd Game of Thrones

RHYBUDD: Mae’r erthygl hon yn cynnwys gwybodaeth am ddigwyddiadau Game of Thrones o bob cyfres o’r sioe deledu.

Prydain yn yr Oesoedd Canol oedd y prif ysbrydoliaeth ar gyfer cyfandir Westeros yn Game of Thrones. Enghraifft amlwg o hyn yw’r Mur yn y Gogledd, sy’n adlais o Fur Hadrian ac mae’r brwydro dynastig, a lladdfa’r ‘Red Wedding’, yn enwedig, yn ein hatgoffa ni o wleidyddiaeth yng Nghymu yn ystod y Canol Oesoedd.

Ond nid ar hanes yn unig yr edrychodd George R. R. Martin wrth ysgrifennu’r gyfres o lyfrau gwreiddiol. Dibynnodd hefyd ar iaith a chwedlau. Yn wir, mae ysgolheigion wedi tynnu sylw at ddefnydd Martin o chwedloniaeth o’r Hen Lychlyneg yn enwedig.

O edrych ar enwau unigryw ei gymeriadau, mae’n amlwg bod rhai ohonynt yn ddyfeisiadau gan Martin ei hun – Hodor, er enghraifft. Mae eraill, fel Ilyn Payne, Daenerys Targaryen a Tormund Giantsbane, yn deillio o gymsegydd o amrywiol ieithoedd, gan gynnwys Hen Lychlyneg.

Yn amlach na pheidio, mae yna ryw ystyr i’r enwau. Yn wir, mewn pennod ddiweddar o’r gyfres deledu cynigodd Tormund eglurhad o’i enw ‘Giantsbane’. Honnodd iddo ladd cawr pan oedd yn ddeg oed ac wedi hynny iddo gael ei fagu gan wraig y cawr (ond ceir stori tarddiad gwahanol yn y llyfrau).

Trwy edrych yn ofalus ar wreiddiau enwau rhai o’r prif cymeriadau – a’u cysylltiadau gyda’r iaith Gymraeg yn enwedig – gwelwn fod eu henwau yn cynnig awgrymiadau diddorol ynghylch ffawd y cymeriadau a chyfeiriad y naratif.

Bran a’r Pedair Cainc

Mae Brandon Stark yn esiampl drawiadol. Wedi iddo dreulio peth amser tu hwnt i’r Mur yn y Gogledd, rhoddir yr enw ‘Three-Eyed Raven’ iddo, yn dynodi ei ddatblygiad yn ffigwr hollweledol sydd a phŵerau arallfydol.

Cawn ryw awgrym o ffawd yr aelod hwn o deulu’r Starks yn eithaf cynnar yn y llyfrau a’r sioe deledu wrth i frain ymddangos yn ei freuddwydion. Ond cafodd y rhai ohonom sydd yn deall Cymraeg gliw o’r cychwyn cyntaf. Yn gyfleus (ac yn fwriadol), byrheir enw Brandon i Bran, sydd, wrth gwrs, yn air Cymraeg am ‘raven’.

Datgelir arwyddocâd posib pellach i enw Bran wrth ei osod yng nghyd-destun llenyddiaeth Gymraeg a Gwyddeleg. Mae ail gainc y Mabinogi yn cynnwys y cawr Bendigeidfran mewn stori sydd bron mor waedlyd â Game of Thrones.

Bendigeidfran (Bendigaid Fran) yw brenin Ynys Prydain, sydd yn mynd i Iwerddon i achub ei chwaer, Branwen (eto, noder yr enw). Ceir lladdfa fawr, gyda’r Gwyddelod yn defnyddio’r Pair Dadeni i greu eu fersiwn nhw o fyddin y meirw. Dim ond saith o filwyr y Prydeinwyr sy’n goroesi, ac wedi iddynt ddychwelyd o Iwerddon bu farw Branwen o dorcalon.

Gwenwynwyd Bendigeidfran ei hun a bu farw, ond caiff ei ben ei gludo gan y Prydeinwyr sy’n goroesi a’i gladdu ar fryn (y Gwynfryn) yn Llundain, gyda’i wyneb yn edrych tua Ffrainc. Hyd yn oed wedi marw, mae gan Fendigeidfran rôl bwysig yn cadw llygad ar ynys Prydain ac yn ei hamddiffyn. Yn ôl traddodiad Cymraeg, bydd yr ynys yn ddiogel rhag ymosodiad cyn belled ag y bydd ei ben yn Llundain.

Mae ‘Three-Eyed Raven’ hollweledol Game of Thrones yn atseinio’r ddelwedd hon o Fendigeidfran yn gwylio dros Brydain, ac mae yna debygrwydd pellach, gyda ‘Bran the Builder’, cyndad chwedlonol y Starks. Honnwyd mai’r Bran hwn a adeiladodd y Mur yn y Gogledd, gyda chymorth cewri, yn ôl rhai storïau. Tra saif y Mur, erys Westeros yn ddiogel rhag y ‘White Walkers’.

Addfwyn a Masnachol

Y corrach Tyrion Lannister, sy’n enwog am ei hiwmor a’i ddoethineb, yw un o hoff gymeriadau nifer o wylwyr a darllenwyr Game of Thrones. Yn Gymraeg, mae tirion, wrth gwrs, yn golygu ‘addfwyn’ neu ‘garedig’. Er bod agwedd wawdiol a dirmygus Tyrion yn awgrymu cymeriad eithaf anodd cydymdeimlo ag o i ddechrau, gydag amser gwelwn fwy o’r nodwedd yr enwyd ef ar ei hôl.

Noder, er enghraifft, ei ymdrech i ddylunio cyfrwy arbennig i Bran ei ddefnyddio wedi ei ddamwain. Yn wir, mae ei gyn-wraig Sansa Stark yn cyfeirio’n aml at garedigrwydd Tyrion yn y ddwy gyfres ddiwethaf o’r sioe deledu.

Un o’r pethau mwyaf nodweddiadol am Game of Thrones yw tueddiad George R. R. Martin i beidio â chreu rhaniad clir rhwng ‘cymeriadau da’ a ‘chymeriadau drwg’. Nid yw’n syndod, felly, nad yw Tyrion bob amser yn cyfiawnhau ei enw – fel yn yr achos o ladd ei gyn-gariad Shae – ond mae’r fath achlysuron yn fwy syfrdanol i ddarllenwyr a gwylwyr sy’n deall ystyr yr enw yn Gymraeg.

Mae natur addfwyn Tyrion wedi dod yn bwnc llosg wrth i’r gyfres deledu ddod i’w therfyn. Mewn pennod ddiweddar nododd Daenerys nad am ei ddaioni yn unig yr apwyntiodd Tyrion yn brif gynghorydd iddi, ond oherwydd ei fod yn ‘ruthless when he had to be’. A fydd diwedd y gyfres deledu yn dangos datblygiad y cymeriad ‘addfwyn’ hyn yn gynghorydd didrugaredd, fel y creda Daenerys bod ei angen arni?

Mae’n bosib y gwelwn y gwrthwyneb. Er bod Tyrion, hyd yn hyn, wedi aros yn ffyddlon i Daenerys, mae wedi gwneud ei orau i leddfu ei llymder â mwyneidd-dra – noder ei ymdrech i osgoi lladd y diniwed trwy drefnu ildio King’s Landing.

Gydag un bennod i fynd, mae’n bosib bod Daenerys, trwy losgi King’s Landing, wedi gwthio Tyrion yn rhy bell, ac fe’i gwelwn yn troi yn ei herbyn. Mae hyn yn gyson gyda’r hyn rydym yn ei wybod am ei gymeriad.

Yr hyn sydd wedi peri’r niwed mwyaf i Tyrion trwy gydol y stori yw’r ffordd y mae’n cael ei weld gan gymdeithas. Yn y sgwrs rhyngddo a’i frawd Jamie yn y bennod fwyaf diweddar o’r gyfres deledu, er enghraifft, noda Tyrion mai Jamie oedd yr unig un na wnaeth ei drin fel anghenfil yn ystod ei blentyndod. Ar ôl i’r brwydro dros orsedd Westeros orffen, tybed ai cael ei gydnabod fel dyn gwirioneddol ‘dirion’ fydd ffawd Tyrion?

Euron

Cymeriad arall ag enw Cymraeg yw Euron Greyjoy. ‘Laburnum’, sef math o goeden, yw ystyr ‘euron’. Mae’n cynnwys yr elfen ‘aur’ ac enw amgen ar gyfer y goeden yw ‘tresi aur’. Mae’n bosib y cyfeiria hyn at yr enw sydd gan Euron am ysbeilio neu efallai ei gysylltiad â’r Golden Company neu’r Lannisters, sydd, yn ôl yr ymadrodd, bob amser yn talu eu dyledion. Mae stori Euron yn dilyn llwybr sydd ychydig yn wahanol yn y llyfrau gwreiddiol, ac mae’n bosib y datgelir arwyddocâd yr enw yn y llyfrau sydd eto i ddod.

O ystyried natur Game of Thrones fel stori sydd yn troi a throelli, mae’r canlyniad terfynol yn dal yn anscir. Ond hyd yn hyn mae defnydd o’r Gymraeg wedi gosod rhagarwyddion unigryw o ddigwyddiadau’r dyfodol. Pwy a ŵyr, efallai bod y defnydd o’r Gymraeg yn gosod y sylfaen ar gyfer diwedd y stori hefyd.

Cyhoeddwyd fersiwn o’r erthygl hon yn wreiddiol ar wefan y Conversation. 

‘Mae Gwerddon Fach yn fenter ar y cyd rhwng Golwg360 a Gwerddon, cyfnodolyn ymchwil y Coleg Cymraeg Cenedlaethol. Ewch i www.gwerddon.cymru i ddysgu mwy.’