Dr Edward Jones, darlithydd Economeg ym Mhrifysgol Bangor a chyn-reolwr risg yn y sector bancio, yn dadlau bod angen Banc Datblygu yng Nghymru

Roedd Adam Smith yn gawr ym maes economeg yn y ddeunawfed ganrif.  Er enghraifft, datblygodd y cysyniad o raniad llafur a damcaniaeth teimladau moesol.  Yn ôl honno mae ymddygiad cydymdeimladol ymysg aelodau cymuned yn angenrheidiol i sicrhau bod yr endid torfol yn parhau a goroesi. Ond mae’n cael ei gofio’n bennaf efallai am ei waith The Wealth of Nations. Hwn oedd y gwaith modern cyntaf ym maes economeg a gosododd seiliau damcaniaeth glasurol marchnad rydd.

Yn ôl Smith, y rhai sy’n gwasanaethu cymdeithas orau yw unigolion sy’n cael rhyddid i ddilyn eu hunan-les.  Mewn cymdeithas o’r fath, caiff prisiau eu pennu drwy’r gwrthdaro rhwng cyflenwad a galw, gyda marchnadoedd rhydd yn cynnig peirianwaith ar gyfer system sefydlog.  Er mai dim ond unwaith y caiff ei grybwyll yn The Wealth of Nations,  mae’r syniad o ‘law anweledig’ yn dynodi grym cudd y farchnad sy’n helpu i sefydlu ecwilibriwm rhwng cyflenwad a galw.   Mae’r cysyniad o ‘law anweledig’ wedi datblygu o ddehongliad cychwynnol Smith i ddod yn ddadl dros fanteision economaidd marchnad rydd.

Yn ddamcaniaethol o leiaf, un o brif nodweddion marchnad rydd dros y tri degawd diweth yw ei gallu i addasu i ddigwyddiadau eithafol.  Yr her ymarferol yw bod digwyddiadau, a oedd yn eithriadau prin mewn cyfnodau cynharach, yn awr yn digwydd yn llawer mwy aml.

Mae Cwymp Wall Street yn 1929, Argyfwng Dyled De America yn y 1980au, Dydd Llun Du yn 1987, Dydd Mercher Du yn 1992, Argyfwng Asiaidd 1997, torri’r Swigen Dot-com yn 2001, yr Argyfwng Ariannol Byd-eang yn 2007, ac Argyfwng Dyled Ewrop yn 2010 yn enghreifftiau o blith amryw o fethiannau nodedig yn y farchnad. Mae’r achosion hyn, a rhagor, yn arwain at y ragdybiaeth fod cyllid yn mynd yn fwy bregus ac na allwn ddibynnu ar rymoedd y farchnad yn unig i ddatrys anawsterau strwythurol economaidd ac aneffeithlonrwydd gwneud penderfyniadau ynglŷn ag adnoddau ariannol.

Mae methiannau yn y farchnad yn digwydd yma yng Nghymru, yn gysylltiedig â gwybodaeth amherffaith neu anghymesur rhwng benthycwyr a busnesau. Mae’n anodd i fenthycwyr wahaniaethu rhwng busnesau risg uchel ac isel heb fynd i gostau sylweddol, felly maen nhw’n mynnu bod y rhai sy’n benthyg yn darparu tystiolaeth o’u record ariannol a/neu warant cyfatebol ar gyfer y cyllid ac yn seilio’u penderfyniad ar hynny yn hytrach nag ar debygrwydd o lwyddiant economaidd. Mae hyn yn arwain at wrthod cyllid i rai busnesau a allai lwyddo, gan lesteirio twf economaidd. Gall y methiannau hyn o ran gwybodaeth gael eu dwysáu dan amodau economaidd ansicr pan fydd benthycwyr yn llai parod i fentro a phan fydd mwy o ansicrwydd.

Beth sydd ei angen ar Gymru

I gywiro’r methiant hwn yn y farchnad a galluogi’r wlad i’w rhoi ei hun ar lwybr twf cynaliadwy a chynhwysol, creu swyddi, ac adeiladu ar y meysydd lle mae ganddi fantais gystadleuol , mae ar Gymru angen ‘llaw amlwg’ ac nid ‘llaw anweledig’ i arwain ei heconomi. Mae angen banc datblygu.

Wrth geisio hyrwyddo a chefnogi twf economaidd, mae Cymru’n wynebu anghenion buddsoddi tymor-hir ar raddfa fawr. Er mwyn cyllido’r buddsoddiadau tymor-hir hyn, mae ar fusnesau o bob maint angen cael gafael ar gyllido tymor-hir dibynadwy. Mae cael y broses gyllido hir-dymor yn iawn yn gam canolog o ran cefnogi diwygio economaidd a rhoi Cymru ar lwybr twf tymor-hir.

Mae angen i Gymru fod yn uchelgeisiol o ran swyddogaeth Banc Datblygu Cymru yn ei waith o helpu i ddarparu cyllido hir-dymor a gwella effeithlonrwydd ac effeithiolrwydd system ariannol y wlad. Mae system ariannol gywir sy’n gweithredu’n effeithlon yn allweddol i sicrhau twf economaidd. Gall methiannau yn y farchnad rwystro benthycwyr rhag cymryd rhai risgiau neu wneud rhai penderfyniadau ynghylch benthyca.

Yn yr achosion hyn, o ystyried bod ei amcanion polisi cyhoeddus penodol yn gysylltiedig ag ychwanegu gwerth economaidd,cymdeithasol ac amgylcheddol, yn hytrach na dim ond elw, gall banc datblygu ysgogi cyllido preifat. A chymryd bod Banc Datblygu Cymru’n canolbwyntio ar y mannau ble mae’r farchnad yn amlwg yn methu, gall gyflawni swyddogaeth bwysig wrth gefnogi busnesau sydd â’r potensial i lwyddo, wrth leihau anwadalwch cost benthyca arian a lliniaru natur fyr-dymor actorion preifat.

Dylai’r banc datblygu fod yn rhan o becyn cymorth economaidd i oresgyn methiannau yn y farchnad yng Nghymru a chefnogi polisïau cenedlaethol a rhanbarthol pendant i dargedu twf cyflymach a chryfhau gwytnwch economaidd. Ac er mwyn llwyddo i gyflawni’r amcanion hyn, mae angen i Fanc Datblygu Cymru gael tair egwyddor allweddol; rheolaeth gadarn ar risg, mandad wedi’i ddiffinio’n glir, a threfn lywodraethu a goruchwylio glir:

  • Mae proses a diwylliant cryf o reoli risg yn bwysig i lwyddiant Banc Datblygu Cymru oherwydd bydd yn gweithredu mewn mannau lle mae risg credyd yn uchel, bydd yn benthyca i nifer gyfyngedig o gyrff, a bydd hi’n fwy anodd rhagweld y risgiau sy’n gysylltiedig â’i fenthyca.
  • Yn wahanol i fanciau masnachol, mandad banciau datblygu yw hyrwyddo twf economaidd cynaliadwy ac amcanion economaidd-gymdeithasol eraill. Dylai’r mandad hwn nodi’n glir beth yw gweithgareddau ’datblygu economaidd’ cadarn. Trwy ei weithgareddau benthyca, bydd Banc Datblygu Cymru’n hyrwyddo gwerthoedd ac ideolegau’r Cynulliad Cenedlaethol. Fodd bynnag, dylai fod yn endid cyfreithiol ar wahân ac yn annibynnol yn ariannol.
  • Mae fframwaith llywodraethu banciau datblygu’n adlewyrchu’r ffaith eu bod yn eiddo cyhoeddus. Wrth gymryd rhan yn y farchnad ariannol, mae gan fanciau datblygu statws arbennig. Dylai fframwaith goruchwylio a llywodraethu Banc Datblygu Cymru adlewyrchu ei swyddogaeth hybrid rhwng y wladwriaeth gyhoeddus a’r marchnadoedd ariannol preifat. Mae trefn lywodraethu glir yn un o’r gofynion allweddol i sicrhau y gall addasu i amgylchedd economaidd sy’n newid yn barhaus a rheoli ei dasgau cyfnewidiol.

Dylai’r sector ariannol helpu i gefnogi’r economi. Fodd bynnag, mae cyfyngiadau’r sector  ariannol preifat a methiant marchnadoedd yn tanlinellu’r gwaith cyflenwi positif y gall banciau datblygu cyhoeddus effeithiol ei wneud yn genedlaethol a rhanbarthol. Bydd y tair egwyddor a amlinellwyd uchod yn sicrhau y bydd economi Cymru, drwy Fanc Datblygu Cymru, yn cael ei harwain gan ‘law amlwg’ ac nid gan ‘law anweledig’ marchnadoedd ariannol.