Mae gan Lywodraeth Cymru gynllun ariannol i gynnig adnoddau ychwanegol i blant o’r cartrefi mwyaf tlawd ac i sicrhau eu bod yn cael yr un profiadau â phlant eraill. Ond, fel mae Gwilym Siôn ap Gruffudd a Dr Llinos Haf Spencer o Ysgol Addysg Prifysgol Bangor yn dangos, dyw rhai rhieni yng nghefn gwlad ddim yn hawlio’r arian ac mae eu plant a’u hysgolion ar eu colled oherwydd hynny.

Mae tlodi’n effeithio ar deuluoedd ar draws Cymru ac mae hyn yn cael effaith ar berfformiad academaidd plant a phobl ifanc yn yr ysgol. Mae tlodi yn gallu effeithio ar fywyd cyfan y plentyn gan gynnwys eu lefelau maeth, eu lefelau ffitrwydd a’u presenoldeb yn yr ysgol, ynghyd a’u profiadau addysgol, gyrfaol a phrofiadau bywyd yn gyffredinol.

Mae pentwr o dystiolaeth yn datgan bod disgyblion yng Nghymru yn llithro tu ôl i lwyddiant disgyblion gwledydd eraill y byd a bod cysylltiad cryf rhwng tlodi ac addysg, ond beth mae Llywodraeth Cymru yn ceisio ei wneud i leihau’r bwlch yma rhwng y disgyblion cyfoethocaf a’r tlotaf?

Mae gan bob plentyn a/neu berson ifanc rhwng 4 a 18 oed yr hawl i addysg am ddim. Felly, mae pob plentyn/person ifanc fel hadyn yn nhir y Gymru lawiog, yn cael dŵr. Yn ychwanegol at hyn, mae gan Lywodraeth Cymru y Grant Datblygu Disgyblion (y ‘Pupil Development Grant – ‘PDG’ fel mae’n cael ei alw), sy’n cael ei roi i bob ysgol ar sail nifer y plant sy’n derbyn prydau cinio ysgol am ddim. Dyma’r haul sy’n tywynnu ar hadyn sydd wedi cael digon o ddŵr ac sy’n barod i dyfu.

Mae’r arian ychwanegol o’r grant PDG ar gyfer rhoi cymorth i’r plant a phobl ifanc mwyaf tlawd gan alluogi prifathrawon ysgolion cynradd ac uwchradd Cymru i gynnwys y plant a phobl ifanc yma mewn gweithgareddau a fyddai y tu hwnt i’w gafael heb yr arian hwn. Gall gynnwys tripiau i amgueddfeydd neu orielau mewn dinasoedd cyfagos, gwyliau byr gyda’r ysgol, neu gymorth ychwanegol o ran sgiliau sylfaenol fel darllen, sillafu neu fathemateg a hynny mewn grwpiau bach o fewn oriau arferol neu ar ôl oriau arferol yn yr ysgol.

Mae ymchwil ddiweddar gan Brifysgol Bangor a chonsortia gwella ansawdd ysgolion wedi dangos bod y profiadau hyn yn gallu lleihau’r bwlch academaidd rhwng y tlawd a’r cyfoethog . Penaethiaid ysgolion sy’n cael penderfynu sut i wario’r PDG yn effeithiol; er hyn, mae angen iddynt ddangos i arolygwyr addysg sut y maent yn gwario’r arian ychwanegol ynghyd â dangos tystiolaeth o effeithiolrwydd y gwario o ran cynnydd addysgol neu academaidd disgyblion.

Mae cryn dystiolaeth yn ymchwil Prifysgol Bangor bellach yn nodi bod ysgolion cynradd ac uwchradd, trefol a gwledig, ledled Cymru yn dibynnu ar y grant PDG i’w helpu i roi’r gefnogaeth orau bosib i blant a phobl ifanc sydd o dan anfantais o gymharu ag eraill o’r un oed a phrofiad addysgol. Gall hyn gynnwys sicrhau cymorth gyda sgiliau sylfaenol neu agweddau emosiynol megis hunan hyder neu ymdopi gyda phrofedigaeth.

Yn Ebrill 2018, ar sail tystiolaeth ymchwil Prifysgol Bangor ac eraill, cyhoeddodd Gweinidog Addysg Llywodraeth Cymru ei bod am gynyddu’r gefnogaeth ariannol sydd ar gael trwy’r PDG i ddisgyblion Cymru a bod y gronfa ariannol sydd ar gael dros y flwyddyn nesaf yn chwyddo i dros £90 miliwn –  hynny oherwydd ei bod yn gweld yr angen i ymestyn y gynhaliaeth a roddir gan ysgolion.

Stigma a balchder

Cadarnhaodd ymchwil Prifysgol Bangor fod llawer o deuluoedd yng Nghymru yn deuluoedd JAM (Just About Managing). Mae llawer o rieni mewn teuluoedd dau riant yn gweithio’n llawn amser mewn swyddi oriau hir gyda thâl isel ac yn ei chael yn anodd treulio amser a rhoi profiadau addysgol a buddiol i’w plant.

Mae’n bwysig bod y rhieni yma hefyd yn hawlio’r hyn sydd ar gael ac yn ddyledus iddynt o ran buddion, fel y cynllun cinio ysgol am ddim. Credir mai stigma neu falchder yw’r prif reswm pam nad yw rhai teuluoedd yn hawlio cinio ysgol am ddim, ond gall fod ar y rhestr cinio am ddim arwain at adnoddau a chymorth ychwanegol i’r plant a’u hysgolion.

Mae tystiolaeth fod stigma neu falchder yn golygu nad yw rhai teuluoedd yn hawlio cinio ysgol am ddim, ond gall trefniadau o fewn ysgolion ddylanwadu ar hyn un ffordd neu’r llall. Er enghraifft mewn rhai ysgolion mae’r plant sy’n derbyn ysgol cinio am ddim yn amlwg i ddisgyblion ac athrawon, ond nid yw hyn yn wir mewn ysgolion lle mae systemau electronig o dalu am ginio ysgol.

Mae tîm o ymchwilwyr o dan arweiniad Gwilym Siôn ap Gruffudd, Ysgol Addysg Prifysgol Bangor, wedi canfod tystiolaeth sy’n dangos nad yw teuluoedd JAM mewn ardal wledig yr un mor debygol o hawlio cinio ysgol am ddim a theuluoedd JAM sy’n byw mewn llefydd mwy trefol yng Nghymru. Golyga hyn nad yw’r ysgolion gwledig yn derbyn cymaint o’r grant PDG ag y gallent, nac ychwaith gymaint â’r ysgolion trefol. O ganlyniad mae llai o adnoddau ar gael i’w rhannu a llai o gyfleoedd i’w cael. Mewn ysgolion gwledig, felly, mae rhai plant yn methu â chymryd rhan mewn pethau sy’n cyfoethogi mynediad a phrofiad llawn o’r cwricwlwm.

Mae yna neges i’w rhoi i rieni cefn gwlad Cymru:  os oes hawl gyda chi i hawlio prydau cinio ysgol am ddim dros eich plant, gwnewch hynny gyda hyder a heb oedi gan nad oes neb yn gwybod pa mor hir fydd y cynllun yn parhau nac ychwaith pa brofiadau y mae eich plant yn eu colli, a hynny’n effeithio’n addysgol a seicolegol arnynt yn yr hirdymor. Cefnogwch eich plant a’ch ysgol i gyrraedd eu potensial llawn, tra bod y cronfeydd yn llawn a’r pwll yn gymharol ddi-waelod ac ystyriwch y gwirionedd hwn: Rhaid hau i fedi. Bydd y maeth, y dŵr (addysg am ddim) a’r haul (gweithgareddau ychwanegol) yn creu tyfiant cryf.

Am ragor o wybodaeth am ymchwil tlodi ac addysg wledig Cymru gan Brifysgol Bangor, cysylltwch â: Gwilym Siôn ap Gruffudd: g.s.apgruffudd@bangor.ac.uk ffôn 01248 383074 neu Dr Llinos Haf Spencer: l.spencer@bangor.ac.uk ffôn 01248 383171