Mae deugain mlynedd o waith ymchwil wedi nodi sawl un o’r prosesau seicolegol sy’n sail i’r gallu i ddarllen. Serch hynny, tan yn ddiweddar, doedd dim llawer o wybodaeth am y prosesau ymenyddol (gwybyddol) y tu cefn i ruglder darllen. Dr Manon Jones o Ysgol Seicoleg Prifysgol Bangor sy’n edrych ar lenyddiaeth am y maes ac yn disgrifio ei harbrofion hi a’i chydweithwyr i ddeall y prosesau unigol yn well.

Os ydym fel dynoliaeth yn gwahaniaethu ein hunain oddi wrth y rhywogaethau eraill ar sail ein gallu i ddefnyddio ieithoedd soffistigedig ac i gyfathrebu cysyniadau cymhleth, gellir dadlau bod y gallu i ddarllen a gadael ôl ysgrifenedig yn fwy pwerus fyth.

Mae deall seiliau seicoleg rhuglder darllen felly’n bwynt damcaniaethol diddorol, ond gyda phwrpas ymarferol hefyd o geisio datrys pam fod 10-15% o bobl yn ddyslecsig, ac na fydd ganddynt fyth, felly, y gallu i ddarllen yn rhugl. Mae darllen yn rhugl yn ganlyniad i gydweithio a chytgord rhwng gwybodaeth nerfol o sawl ffynhonnell (adran) wahanol yn yr ymennydd.

Tasg o’r enw Enwi Awtomatic Cyflym yw’r dull safonol o fesur pa mor rugl yw pobl wrth ddarllen. Yn y fersiwn clasurol, mae’n golygu darllen pump rhes o ddeg llythyren er mwyn gweld pa mor gyflym y mae person yn adnabod y llythrennau ac wedyn yn troi hynny’n sain cywir ar eu cyfer.

Mae’n defnyddio’r tri rhan gwahanol o’r ymennydd sy’n weithgar wrth ddarllen. Ond, yn hollbwysig, mae EAC hefyd yn gwahanu’r prosesau adnabod llythrennau oddi wrth y lefelau uwch o iaith, megis cystrawennau ac ystyr.

Mae nifer o ymchwilwyr wedi dangos bod perfformiad plant ar y dasg EAC – cyn iddyn nhw ddysgu darllen geiriau – yn rhagfynegi’n gryf beth fydd eu gallu i ddarllen ymhen blynyddoedd. Gan bod EAC, fel rheol yn mesur cyflymder wrth enwi 50 llythyren, mae’n dasg dwyllodrus o gymhleth, sy’n gofyn am adnabod llythrennau’n gyflym a mynd ati i gyfateb y wybodaeth honno i’r eitemau orthograffig (siap llythrennau) a ffonolegol (siap llythrennau) sydd wedi eu storio yn y cof. Mae dau ymchwilydd. Wolf a Bowers, wedi dadlau mai’r gallu i brosesu elfennau gweledol a ffonolegol a’u cyfuno’n gyflym yw’r ffactor hollbwysig wrth berfformio’r dasg yn llwyddiannus.

Arbrofion newydd

Er hyn, does dim consensws mewn llenyddiaeth sy’n ymdrin â’r maes ynglŷn â pha brosesau gwybyddol sy’n gyfrifol am y diffygion rhuglder mewn dyslecsia. Pan ddechreuais ar radd bellach ym Mhrifysgol Caeredin yn 2004, euthum ati i geisio mynd i’r afael â’r bwlch hwn yn y llenyddiaeth. Penderfynais fod angen profi pob proses wybyddol sy’n gysylltiedig â’r dasg.

Mewn arbrawf nodweddiadol, byddaf yn cymharu grŵp o oedolion sy’n darllen yn ‘normal’ â grŵp dyslecsig wrth iddynt gyflawni fersiynau o’r dasg sy’n mesur galluoedd gweledol, ffonolegol, a’r gallu i dalu sylw i’r hyn y maent yn ceisio’i brosesu.

Un o’n hymdrechion cyntaf oedd addasu’r EAC er mwyn cyflwyno’r llythrennau mewn gwahanol ffyrdd: 1) cyflwyno pob llythyren gyda’i gilydd ar ffurf grid (cyflwyniad EAC nodweddiadol), 2) cyflwyno llythrennau’n unigol mewn lleoliadau sgrin cyfatebol i’r cyflwyniad grid, a 3) cyflwyno llythrennau’n unigol yng nghanol y sgrin (gweler y Ffigwr).

Deiagram gydag un bocs a nifer o lythrennau ynddo ac yna cyfres o cofsys gydag un llythyren yr un mewn lle ychydig yn wahanol bob tro
Deiagram yn dangos arbrawf darllen yn rhugl

 

Fersiwn (1), sef cyflwyno’r holl lythrennau ar unwaith yn y fformat grid, oedd yn gwahaniaethu orau rhwng y darllenwyr medrus a’r rhai dyslecsig. Yn benodol, roedd darllenwyr medrus yn gyflymach yn enwi llythrennau a gyflwynwyd gyda’i gilydd mewn grid na llythrennau unigol, ond roedd darllenwyr dyslecsig yn arafach yn enwi llythrennau dan yr un amodau. Roedd darllenwyr medrus yn prosesu’r llythyren nesaf o flaen llaw ac yn defnyddio hynny er mwyn cyflymu eu perfformiad. Ond caiff darllenwyr dyslecsig eu drysu gan y wybodaeth honno ac o ganlyniad, arafir eu perfformiad.

Mae’r pellter rhwng y llythrennau hefyd yn hynod bwysig. Caiff darllenwyr dyslecsig eu drysu’n fwy pan fydd y llythrennau’n agos at ei gilydd a’r wybodaeth ychwanegol (at y llythyren dan sylw) ym mhrif ffocws y system olwg (ac felly brif ffocws y system sylw).

Defnyddiodd fy nghyd-weithwyr a minnau hefyd ddulliau niwrowyddonol, fel y dull tracio llygaid, sy’n dangos am ba hyd y mae’r llygad yn prosesu eitem ac, felly, pa mor anodd yw’r eitem i’w phrosesu. Gall hefyd fesur yr union amser a gymerir i enwi llythyren; trwy fesur yr amser o’r adeg pan lania’r llygad ar yr eitem hyd at y pwynt lle mae’r darllenydd yn dechrau datgan enw’r eitem honno.

Yn ein hastudiaethau, cyflwynwyd cyfres o lythrennau un ar ôl y llall, a oedd yn debyg i’w gilydd ac, o ganlyniad, yn ddryslyd (e.e. mae p a q yn weledol debyg ac mae k a q i’w clywed yn debyg yn y Saesneg). Darganfu’r ymchwil fod gwahaniaethau diddorol rhwng y grwpiau dyslecsig a medrus. Roedd y grŵp medrus yn edrych ar y llythrennau tebyg am amser hirach na’r arfer. Er hynny, erbyn iddynt ddod i enwi’r llythrennau ychydig o fili-eiliadau’n ddiweddarach, gwnaed hynny gyda’r un hwylustod â phe na bai’r llythrennau’n peri dryswch. Roedd y grŵp dyslecsig yn llawer arafach yn gyffredinol wrth gwblhau’r dasg, a gwelwyd eu bod yn llawer arafach yn edrych ar y llythrennau dryslyd, ac yn arafach fyth yn ynganu enw’r llythyren.

I grynhoi, mae gennym ni – ynghyd â labordai eraill – yn awr gasgliad o astudiaethau sy’n taflu goleuni ar y prosesau gwybyddol sy’n sail i ddarllen yn rhugl, ynghyd â’r prosesau annormal sy’n cyfrannu at ddyslecsia. Gall darllenwyr medrus drosi’r symbol gweledol i un ffonolegol yn gyflym, yn effeithlon ac yn awtomatig, gan wahaniaethu’r codau cywir oddi wrth rai eraill, tebyg, a all gystadlu â’r ateb cywir. Yn ogystal, defnyddir gwybodaeth am yr eitemau (llythrennau neu eiriau) a ddaw nesaf, a byddant yn eu prosesu ar yr un adeg â’r eitem y maent yn canolbwyntio arni ar y pryd. Nid yw hyn yn eu drysu nac yn amharu ar eu gallu i enwi’r eitemau’n rhugl. I’r gwrthwyneb, mae’n eu galluogi i enwi neu ddarllen yn gyflymach.

Ar y llaw arall, mae gan ddarllenwyr â dyslecsia fwy nag un broblem i’w goresgyn wrth geisio tynnu ar wybodaeth weledol a ffonolegol o’r cof, gydag eitemau tebyg eraill yn achosi cystadleuaeth sylweddol, sy’n eu harafu. Mae prosesu’r eitemau a ddaw nesaf yn y cyflwyniad o flaen llaw yn gwaethygu’r broblem hon, gan eu bod yn tynnu mwy o gynyrchiadau o’r cof, gan achosi mwy o gystadleuaeth a dryswch.

Rydym o’r farn mai anhawster yng ngallu’r cof i atal gwybodaeth yw hyn, sy’n peri i bobl ddyslecsig orfod oedi cyn dewis yr wybodaeth gywir. Mae’n ddiddorol nodi bod sawl arbrawf, nad oeddent yn canolbwyntio ar ruglder yn uniongyrchol, yn dangos bod anallu’r cof i atal gwybodaeth yn nodwedd o ddyslecsia. Mae ein hymchwil a’n canfyddiadau felly’n cyd-fynd yn dda â syniadau cyfredol ynghylch yr elfennau sy’n achosi dyslecsia.

Prif nodwedd darllen yn rhugl yw creu cyfatebiaeth rhwng y cynyrchiadau orthograffig (golwg y llythrennau) a’r côd ffonolegol cywir (sain y llythrennau), ynghyd â bod yn effeithlon wrth atal ‘atebion’ anghywir. Awgrymodd sawl ymchwilydd mai’r system sylw yn yr ymennydd sy’n gweithredu’r broses ddethol. Gyda dyslecsia, awgrymwn nad yw’r system sylw’n cael ei defnyddio mewn ffordd effeithlon, sy’n golygu diffyg rheolaeth dros y cynyrchiadau anghywir, dryslyd.

A ellir gwneud sylwadau am y prognosis i drin y nam rhuglder? Mae ymchwil hyd yma yn awgrymu y gall diffyg rhuglder wrthsefyll strategaethau i’w oresgyn, yn wahanol i nodweddion eraill dyslecsia. Mae rhuglder yn golygu mynediad cyflym at nifer o gynrychioliadau o wahanol barthau yn yr ymennydd, yn cynnwys rhai gweledol a ffonolegol, a chydlynu effeithlon rhyngddynt. Felly, mae rhaglenni cyfredol i wella rhuglder yn cynnwys ymarferion dwys o ran adnabod llythrennau, patrymau llythrennau, gwahaniaethu rhwng ffonemau (seiniau), a chael mynediad cyflym a chywir at ystyr geiriau.

Mae tystiolaeth ddiweddar yn awgrymu y gall hyn gael effaith fuddiol yn y tymor hir ar allu plant i ddarllen. Wrth edrych i’r dyfodol, bydd datblygiadau technolegol cyffrous yn ein galluogi i weld yn union pa rannau o’r ymennydd sy’n ymdrin â gwybodaeth ysgrifenedig ac amseriad y gwahanol brosesau dan sylw.

Mae’r erthygl lawn i’w gweld yn Gwerddon fan hyn:

http://www.gwerddon.cymru/cy/rhifynnau/rhifyn18/erthygl3/