Golwg ar y Bae - 24 Mawrth

24 Mawrth 2017

Tro'r Blaid Lafur yw hi yn nhymor y cynadleddau ac yn Golwg ar y Bae yr wythnos hon, ry'n ni'n holi Jeremy Miles, Aelod Cynulliad Llafur dros ddyfodol y blaid. A yw dyddiau Andrew RT Davies fel arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig ar ben? Dyna y mae Gareth Hughes yn ei drafod, ynghyd ag ymweliad Theresa May i Gymru a thanio Erthygl 50 er mwyn dechrau ysgariad Prydain a'r Undeb Ewropeaidd yn swyddogol.