RSS

Golwg360

MwyCau 

Croeso i Adnodd sylwadau Disqus Golwg360

Mae Golwg360 yn awyddus iawn i annog trafodaeth am y newyddion trwy gyfrwng y Gymraeg, ac yn hynny o beth mae adnodd sylwadau y wefan yn elfen bwysig iawn.

Er mwyn gwella’r adnodd yma, ym Mai 2014 rydym wedi trosglwyddo i system Disqus – system sylwadau gydnabyddedig sy’n cael ei defnyddio’n eang ar flogiau a gwefannau newyddion ledled y we.

Mae Disqus yn cynnig llwyfan rhyngweithiol ar gyfer trafod pynciau, yn ogystal â chynnig gwell diogelwch rhag spam a chamddefnydd o’r adnodd sylwadau.

Dyma gyflwyniad i rai o nodweddion Disqus ar Golwg360



Gadael sylw

Rydym am ei gwneud mor rhwydd a chyflym a phosib i unrhyw un ymateb i straeon, ac er mwyn peidio ag arafu’r drafodaeth mae sylwadau’n cael eu cyhoeddi’n syth ar Golwg360.

Wedi dweud hynny, mae’n rhaid i chi fod wedi mewngofnodi i’r system Disqus i wneud hynny ac mae modd gwneud hynny mewn sawl ffordd.

Yn gyntaf, mae modd defnyddio eich proffil Twitter, Facebook neu Google + i adael sylwadau ac rydym yn annog pobl i wneud hynny er mwyn cysylltu’r drafodaeth â’r cyfryngu hynny.

Os nad ydych am gysylltu eich sylwadau â’ch proffiliau cyfryngau cymdeithasol yna mae modd i chi greu cyfrif Disqus yn rhwydd a chyflym iawn – bydd gofyn i chi gadarnhau eich cyfeiriad ebost wrth gofrestru.


Cwyno am sylwadau

Fel y nodwyd uchod, mae sylwadau’n cael eu cyhoeddi’n syth ar y wefan er mwyn hwyluso’r drafodaeth. Gofynnwn yn garedig felly i’n darllenwyr helpu plismona’r adnodd sylwadau er mwyn atal unrhyw un rhag ei gamddefnyddio.

Os fyddwch yn credu bod unrhyw sylw’n mynd yn groes i ganllawiau defnydd sylwadau Golwg360 yna mae modd i chi dynnu sylw golygyddion Golwg360 ato trwy gwyno am y sylw.

I gwyno am sylw, cliciwch ar y faner fach sy’n ymddangos wrth ei ochr wrth sgrolio dros y sylw (gweler y llun).

Pan fydd tri pherson gwahanol wedi cwyno am un sylw penodol bydd y sylw yna’n cael ei dynnu o’r safle nes bod golygydd wedi ei wirio.


Rhannu sylwadau

Un o rinweddau newydd pwysicaf yr adnodd sylwadau ydy’r gallu i rannu eich sylwadau chi, a rhai pobl eraill ar y cyfryngau cymdeithasol.

Mae modd i chi rannu sylwadau ar Twitter, Facebook a Google +, yn ogystal â chopio dolen i’w rhannu mewn ebost ac ati.

Mae’r llun ar yr ochr dde yn dangos lle gallwch ddewis rhannu y sylw. Wrth rannu ar y cyfryngau cymdeithasol, bydd dyfyniad o’r sylw a dolen i’r stori’n cael eu copio i’r cyfrwng priodol yn barod i chi eu postio.


Cytuno / Anghytuno gyda sylw

Yn aml byddwch yn cytuno neu anghytuno gyda barn rhywun ar Golwg360 ac mae cyfle i chi ddynodi hynny gyda’r nodwedd pleidleisio dros sylw.

Trwy ddefnyddio’r saethau i fyny, neu i lawr ar sylwadau bydd modd i chi ddynodi os ydych yn credu bod y sylw’n un da neu gwael.

Wrth ddarllen y sylwadau ar straeon mae modd i unrhyw un drefnu’r sylwadau mewn tair fford:

i)                    Trefn amser gyda sylwadau diweddaraf ar y brig

ii)                   Trefn amser gyda sylwadau hyna’ ar y brig

iii)                 Trefnu’n ‘ôl gorau’, gyda’r sylwadau sydd â’r mwyaf o bleidleisiau cadarnhaol ar y brig


Mae hefyd modd i chi ‘hoffi’ trafodaethau penodol gan roi cyfle i chi gadw nodyn o’r drafodaeth ar gyfer y dyfodol.