Cafodd Cystadleuaeth Siarad Cyhoeddus Cymraeg CFfI Ceredigion ei chynnal ddydd Sul diwethaf, Ionawr 21, ar Gampws Theatr Felin-fach.

Lledrod oedd y clwb a lwyddodd i gael y nifer mwyaf o bwyntiau yn y pedair adran ar ddiwedd y dydd, gyda 74 pwynt, sy’n golygu mai nhw oedd piau Tarian Brynhogfaen am eleni.

Daeth clwb Pont-siân yn ail gyda 73 o bwyntiau, gan gipio Cwpan Coffa Eric Davies, Pren-gwyn; a chlwb Llanwenog yn drydydd, gyda 72 o bwyntiau.

Fe fydd yr enillwyr yn mynd yn eu blaen i gynrychioli Ceredigion yng nghystadlaethau Siarad Cyhoeddus Cymru, a fydd yn cael ei chynnal ddydd Sadwrn, Mawrth 24, ar Faes y Sioe, Llanelwedd.

Dyma rai o enillwyr Bro Clonc:

14 oed neu Iau

1. Llanwenog A; 2. Llanwenog B; 3. Pont-siân A

Cadeirydd Gorau: Sioned Fflur Davies, Llanwenog A

Darllenydd Gorau: Sioned Fflur Davies, Llanwenog B

16 oed neu Iau

2. Pont-siân

Diolchydd Gorau: Beca Jenkins (Cwmsychbant), Pont-siân

21 oed neu Iau

2. Pont-siân; 3. Llanwenog

26 oed neu Iau

1. Pont-siân; 3. Llanwenog