David Pocock
Owain Gwynedd sy’n pwyso a mesur yr ornest yfory…

Dyma ni wedi cyrraedd gem olaf ‘Cyfres yr Hydref’. Fel oedd pawb wedi darogan ar ddechrau’r gyfres fydd gêm dydd Sadwrn yma yn un fydd rhaid ei hennill, ond am resymau hollol wahanol na’r gwreiddiol.

Mi o ni’n un â oedd yn meddwl bod y gêm hon am fod yn un lle pe bai Cymru yn ennill bydd gobaith o fod ymysg y pedair gwlad gora ac uchaf yn nhabl y Bwrdd Rygbi Rhyngwladol (BRR). Pa mor anghywir oeddwn ni!!!

Mae hon erbyn hyn yn gêm fydd rhaid i Gymru ennill er mwyn aros ymhlith yr wyth uchaf. Os colli bydd hanes Cymru mi fydd Yr Ariannin a Samoa, dau dîm sydd wedi curo Cymru yn y mis diwethaf, yn codi uwch ei phen a fydd Cymru yn llithro i’r nawfed safle yn BRR.

Mae oblygiadau hynny i obeithio’n Cwpan Rygbi’r Byd 2015 yn ddifrifol.

Fydd grŵp posib Cymru yn gallu cynnwys Seland Newydd a Lloegr. Un gêm, oherwydd sefyllfa bresennol Cymru a’r canlyniad diweddar, fydd yn amhosib ei ennill a fydd y llall yn anodd iawn. Felly fydd ail fyw uchelfannau’r gystadleuaeth y llynedd i weld yn bell i ffwrdd.

Fel mae carfan Cymru wedi ail-adrodd sawl gwaith wythnos yma rhaid canolbwyntio ar y gêm dydd Sadwrn yn gyntaf – Y Wallabies.

Tydi Awstralia heb golli i Gymru yr un gwaith yn y saith gêm dros y pedair blynedd diwethaf. Yn amlwg fydd y gêm hon ddim yn hawdd.

Mae Awstralia ei hunain yn mynd trwy gyfnod anodd. Colli i Ffrainc, yn amheus yn erbyn yr Eidal ond, yn lwcus i ddyfodol yr hyfforddwr Robbie Deans, crafu buddugoliaeth yn erbyn Lloegr

Felly mae’r gêm yn un gall Cymru ei ennill er gwaethaf anafiadau’r tîm cartref gan fod Awstralia mewn sefyllfa debyg iawn rhan ei anafiadau a pherfformiadau nhw.

Fydd y ddau dîm yn bell o fod ar ei cryfaf a fydd y tîm fydd yn ennill yn un sydd wedi gallu ymdopi â’r holl anafiadau ora.

Un person a gall ddylanwadu’r canlyniad ac sydd wedi bod yn ddraenen yn och y Cymry yn y gorffennol ydi David Pocock. Yn dychwelyd i grys rhif saith y Wallabies ar ôl anaf mae’n angenrheidiol bod rheng-ôl Cymru yn ei gadw yn ddistaw neu bydd Pocock, sydd bron yr un mor ddylanwadol â Richie McCaw i Seland Newydd, yn ddinistriol.

Fel gwelsom ni yn erbyn Seland Newydd mae Cymru i weld wedi cymryd cam yn y ffordd cywir a gwella ei pherfformiad rhywfaint. Fydd angen cymryd cam arall ymlaen a’r gam hwnnw o’r eiliad mae’r chwiban yn cael ei chwythu.

Os rhaid i mi ddyfalu pwy sydd am ennill, dwi am ddeud Cymru. Dim ond oherwydd bod rhaid ennill ac yn y gemau mawr, megis Y Chwe Gwlad a Chwpan Y Byd, mae Cymru wedi bod eithaf da yn y fath yma o gemau yn y flwyddyn ddiwethaf.

Er hynny, nes i ddyfalu bod Cymru am guro Samoa ac Yr Ariannin a dwi’n un, heblaw pan mae Cymru yn chwarae Seland Newydd, sydd byth yn betio yn ei herbyn.