Pwy ddyle Rob Howley ddewis ar gyfer gornest gynta’ cyfres yr Hydref ymhen wythnos?

Dyma gyngor parod iddo, yn rhad ac am ddim, gan Owain Gwynedd…

Gyda gemau rhyngwladol yr Hydref yn cychwyn wythnos i ddydd Sadwrn a’r chwaraewyr wedi chwarae eu gêm olaf i’w rhanbarthau, pwy sydd yn debygol i gychwyn i Gymru yn erbyn yr Ariannin?

15. Leigh Halfpenny (Gleision)

Yn gadarn o dan y gic uchel, yn gallu cicio fel mul ac fel sliwan yn y dacl. Mae Halpfenny wedi profi ei fod wedi datblygu o asgellwr cyflym i gefnwr o fri.

Ers i Lee Byrne golli ei ffordd a cholli ffafriaeth mae’n dda gweld bod rhywun wedi hawlio’r safle ac i weld bod Liam Williams o’r Scarlets yn ail ddewis cymwys.

14. Alex Cuthbert (Gleision)

Un o’r ychydig o chwaraewyr sydd wedi disgleirio yn nhîm gwael y Gleision tymor yma. Hatrig yn erbyn Sale yng ngêm gyntaf y Cwpan Heineken ac yn taro chwaraewyr Toulon ar eu pen-ôl am hwyl yn y rownd ddilynol, fydd y cawr o asgellwr yn fygythiad i unrhyw dîm ar y funud. Ond mae angen gwella ei waith amddiffynnol.

13. Jonathan Davies (Scarlets)

Yn gadarn wrth amddiffyn ac yn gryf wrth ymosod. Y canolwr gora o ran lefel a chysondeb yng Nghymru’r tymor yma.

12. Ashley Beck (Gweilch)

Tydi Jamie Roberts heb fod ar ei orau ers derbyn triniaeth i’w ben-glin. Efallai bod timau wedi dysgu sut i ymdopi â’i redeg syth neu mae o angen fwy o amser i ail ddarganfod uchelfannau’r gorffennol. Gan fod Roberts wedi cael trafferth, a Beck a Davies wedi cyfuno yn dda ar y daith i Awstralia yn yr haf, does dim rheswm i ollwng Beck o’r tîm.

Efallai fydd hyn yn ysgogi Roberts i weithio’n galetach er mwyn adennill ei le cyn y 6 Gwlad ac yna taith y Llewod.

11. George North (Scarlets)

Gogzilla – ddim angen dweud fawr yn fwy. Un o’r ffefrynnau i wisgo crys y Llewod tymor yma.

10. Dan Bigger (Gweilch)

Mae Rhys Priestland wedi colli ei ffordd ac mae’n anodd gwybod os ydi James Hook wedi gwneud digon i ddal llygaid yr hyfforddwyr allan yn Ffrainc. Mae Bigger wedi dal y llygaid trwy berfformio yn gyson trwy’r tymor ac i weld wedi aeddfedu fel person – wedi gwneud digon i haeddu cyfle arall.

9. Mike Phillips (Bayonne)

Wedi cael trafferthion ar ac oddi ar y cae yn Ffrainc ac mae hynny wedi adlewyrchu yng nghanlyniadau Bayonne. Er hynny does yr un mewnwr arall wedi gallu profi bod nhw wedi cyrraedd yr un safon â Phillips eto.

1. Gethin Jenkins (Toulon)

Dim ond wedi dechrau dwy gêm yn Toulon ac o dan bwysa gan Paul James am y safle ond mae arbenigwyr yn gweld Jenkins fel un o’r gora yn y byd yn ei safle. Anodd gweld sgrym Cymru heb y profiadol Jenkins yn absenoldeb Adam Jones.

2. Richard Hibbard (Gweilch)

Heb os, yn haeddu lle yn y tîm, cyn y Llew Mathew Rees, yn dilyn sawl perfformiad seren y gêm.  Yn gallu sgrymio a rhedeg gyda’r bêl ond mae angen sicrhau bod y llinell yn gadarn. Rhywbeth sydd wedi bod yn wendid ar adegau i Gymru.

3. Aaron Jarvis (Gweilch)

Mae Adam Jones wedi ei anafu am y gyfres sy’n golygu gall Rob Howley ddewis o Scott Andrews, Ryan Bevington, Paul James, Aaron Jarvis a Samson Lee. James sydd fel arfer wedi camu i fwlch anferth Adam Jones ond efo’r angen i ddatblygu prop pen-tynn am yr hir dymor dwi’n siŵr fydd Howley yn profi gallu Jarvis i’r eithaf yn erbyn tîm sy’n hoffi sgrymio.

4. Alun Wyn Jones (Gweilch)

Chwaraewr profiadol a chyson a siŵr o fod yr ail reng gora yng Nghymru. Anodd Gweld Alun Wyn yn colli allan.

5. Ian Evans (Gweilch)

Yn dychwelyd ar ôl methu’r daith i Awstralia oherwydd ei briodas.

Tydi Luke Charteris ddim ar gael oherwydd y frwydr i ryddhau chwaraewyr o Ffrainc ac mae Bradley Davies yn ei chael hi’n anodd yng nghanol pac gwan y Gleision.

6. Ryan Jones (Gweilch)

Pe bai Dan Lydiate, chwaraewr gora’r ‘6 Gwlad’ 2012, yn iach fo fusa’n dechrau. Yn ei le mae angen rhywun profiadol i ymdopi a phac pwerus y Pumas ac mae’n anodd edrych yn bellach nag Ryan Jones sydd yn chwarae cystal ag erioed.

7. Sam Warburton (Capten) (Gleision)

O dan bwysau enfawr gan Justin Tipuric am y safle ac os rhywbeth mae Tipuric wedi bod yn chwarae yn well na Warbuton ers sbel. Mae rhywun yn gobeithio bod Warbuton, sydd eisoes wedi cael ei enwi’n gapten, wedi gwella o’r holl anafiadau a dîm ond angen rhediad o gemau fydd angen i fod nôl ar ei orau ac i fod yn gapten ar y Llewod.

8. Toby Faletau (Dreigiau)

Efo Ryan Jones yn chwarae fel blaenasgellwr does fawr o ddewis arall fel wythwr. Tydi Faletau heb fod ar ei orau ers peth amser ond mae’i berfformiadau wedi bod yn gwella. Rhaid cofio tydi o ddim yn 22 oed nes pythefnos arall.