Mae prif hyfforddwr dros-dro Cymru wedi cyhoeddi carfan estynedig ar gyfer
Martyn Williams
gemau Cymru yn erbyn y Barbariaid ac Awstralia dros yr haf.

Mae Robert Howley, sy’n arwain y tîm hyfforddi yn absenoldeb  Warren Gatland, wedi cynnwys Martyn Williams yn y garfan 38-dyn ac mae’n debygol bydd y blaenasgellwr yn ennill ei ganfed cap yn y gêm yn erbyn y Barbariaid yng Nghaerdydd ar 2 Mehefin.

Mae pedwar chwaraewr sydd heb ennill cap o’r blaen wedi eu cynnwys yn y garfan – cefnwr y Sgarlets, Liam Williams; prop y Sgarlets a’r mab ffarm o Bennal, Rhodri Jones; Ashley Beck, y canolwr o ranbarth y Gweilch; ac asgellwr y Gleision, Harry Robinson.

Bydd Cymru’n chwarae tri phrawf yn erbyn Awstralia ar 9, 16 a 23 Mehefin ac yn cwrdd â’r ACT Brumbies mewn gêm ganol-wythnos ar 12 Mehefin.

Dyma’r garfan yn llawn:

Blaenwyr: Ryan BEVINGTON, Luke CHARTERIS, Bradley DAVIES, Ian EVANS, Toby FALETAU, Rhys GILL, Richard HIBBARD, Paul JAMES, Gethin JENKINS, Adam JONES, Alun Wyn JONES, Rhodri JONES, Ryan JONES, Dan LYDIATE, Ken OWENS, Matthew REES, Aaron SHINGLER, Justin TIPURIC, Josh TURNBULL, Sam WARBURTON, Martyn WILLIAMS

Olwyr: Ashley BECK, Dan BIGGAR, Andrew BISHOP, Aled BREW, Alex CUTHBERT, Jonathan DAVIES, Leigh HALFPENNY, Will HARRIES, James HOOK, George NORTH, Mike PHILLIPS, Rhys PRIESTLAND, Harry ROBINSON, Rhys WEBB, Lloyd WILLIAMS, Scott WILLIAMS, Liam WILLIAMS