Stephen Jones
Owain Gruffudd sy’n edrych ymlaen at ffarwèl Stephen Jones a Martyn Williams

Mae cefnogwyr rhanbarth y Sgarlets yn paratoi i ffarwelio â Stephen Jones dros y penwythnos, cyn i’r maswr droi at sialens newydd gyda thîm Wasps Llundain.

Gyda’r Sgarlets yn ceisio ennill eu lle yng ngemau ail-gyfle Cynghrair RaboDirect mae’r llwyfan wedi ei osod yn berffaith ar gyfer gêm ddarbi Gymreig ola’r  tymor, wrth i’r Sgarlets groesawu Gleision Caerdydd i Barc y Sgarlets.

Mae Jones wedi treulio dau gyfnod yn Llanelli yn ystod ei yrfa, gyda dwy flynedd yn Clermont rhyngddyn nhw, ond bydd yn gorffen ei yrfa gyda’r Wasps yn uwchgynghrair Aviva yn Lloegr.

“Fi’n edrych ymlaen at ddydd Sadwrn achos mae wedi bod yn bleser ac yn fraint i chwarae dros y rhanbarth,” meddai’r maswr o Gaerfyrddin.

“Dwi wedi mwynhau pob eiliad o fod yn Sgarled, ond yn edrych ymlaen at y dyfodol hefyd. Mae gen i atgofion cynnes o fod yma.”

Gyda 104 o gapiau rhyngwladol i’w enw, Stephen Jones yw’r chwaraewr sydd wedi cynrychioli Cymru’r nifer fwyaf o weithiau, ac mae’n gobeithio cael cyfle i wynebu Cymru mewn ymddangosiad dros dîm y Barbariaid yn Stadiwm y Mileniwm ar 2 Mehefin.

Martyn Williams yn ffarwelio hefyd

Arwr arall fydd yn ffarwelio â rygbi yng Nghymru ddydd Sadwrn yw Martyn Williams, ac er nad yw hi’n debygol y bydd ar y cae, bydd cyfle gan gefnogwyr y Sgarlets a’r Gleision i dalu teyrnged iddo yntau hefyd. Mae Stephen Jones yn ei nabod yn dda.

“Mae Martyn wedi bod yn chwaraewr o’r safon uchaf dros y blynyddoedd. Mae e’n broffesiynol, mae ei agwedd at y gêm wedi bod yn wych a fi’n siŵr wneith y ddau ohonom ni fwynhau’r gêm ddydd Sadwrn.”

Mae Stephen wedi wynebu cystadleuaeth ffyrnig am grys y maswr dros y Sgarlets, Cymru a’r Llewod gan chwaraewyr megis Neil Jenkins, James Hook a Ronan O’Gara.  Ond Rhys Priestland sydd wedi rhoi’r sialens fwyaf iddo yn ddiweddar , ac mae Stephen yn ffyddiog y bydd Rhys a chwaraewyr ifanc eraill y Sgarlets megis Dan Newton a Jordan Williams, yn gallu parhau i wisgo’r rhif 10 dros y rhanbarth:

“Ni wedi bod yn ffodus o ran hynny, mae lot o fechgyn ifanc a da yn dod trwyddo. Cyfle ac amser sydd eisiau arnyn nhw ac maen nhw yn y lle gorau i ddysgu’r gêm. Dwi’n siŵr mewn cwpwl o flynydde y bydd lot mwy o fechgyn da yn dod trwy’r academi.”

‘Arwr’

Yn wynebu Stephen dros y penwythnos, bydd mewnwr rhyngwladol Cymru, Lloyd Williams. Roedd e’n awyddus i dalu ei deyrnged ei hun i faswr y Sgarlets:

“Bydd hi’n bleser chwarae yng ngêm olaf Stephen. Mae e’ wedi bod yn arwr i mi ers pan oeddwn i’n fachgen ifanc. Ond fe fyddwn ni’n canolbwyntio ar y dasg o’n blaenau, ac yn ceisio talu’r pwyth yn ôl i’r Sgarlets am ein curo ni yng Nghaerdydd.”

Mae disgwyl torf fawr ddydd Sadwrn i ffarwelio â’r maswr, ac mae Stephen Jones am dalu ei deyrnged ei hun i gefnogwyr y Sgarlets.

“Dwi wedi mwynhau pob eiliad o chwarae dros y Sgarlets ac mae’r gefnogaeth dwi wedi ei gael dros y blynyddoedd gan y cefnogwyr wedi bod yn wych – dwi’n ddiolchgar iawn i bob un ohonyn nhw.”