Mae’r glaw wedi rhoi stop ar gêm fawr Pontypridd a Llanymddyfri heno yn uwchgynghrair Principality Cymru.

Cafodd archwiliad o’r cae ei gynnal gan swyddogion am hanner dydd ac fe benderfynon nhw fod y cae yn rhy wlyb yn dilyn glaw trwm dros nos. Nid oes dyddiad wedi ei bennu eto ar gyfer chwarae’r gêm.

Byddai buddugoliaeth heno wedi rhoi Pontypridd yn ffeinal y gynghrair gan olygu fod yn rhaid i Lanelli ac Aberafan frwydro mewn gêm ail-gyfle er mwyn cyrraedd y ffeinal.

Mae llygedyn o obaith hefyd gan Borthmyn Llanymddyfri i gyrraedd y gêm ail-gyfle tasen nhw’n chwalu Pontypridd, ond byddai hynny’n orchest fawr.

Fe allen nhw wneud cymwynas â’u cymdogion yn Sir Gaerfyrddin – Llanelli – trwy guro Pontypridd a gorfodi clwb Heol Sardis i chwarae Aberafan er mwyn cyrraedd y ffeinal.