Bradley Davies
Fe fydd Bradley Davies yn clywed heddiw a fydd yn cael cosb ychwanegol am dacl ffiaidd yn ystod y gêm yn erbyn Iwerddon ddydd Sul.

Y disgwyl yw na fydd Bradley Davies ar gael i chwarae i Gymru am weddill y gemau ym Mhencampwriaeth y Chwe Gwlad.

Wedi’r gêm ddydd Sul, cyfaddefodd Warren Gatland fod Bradley Davies yn haeddu’r garden goch am y dacl  ar Donnacha Ryan 65 munud mewn i’r gêm.

“Bydden i ddim wedi dadlau gyda’r penderfyniad i roi’r garden goch iddo fe am y dacl yna,” dywedodd Prif Hyfforddwr tîm rygbi Cymru.

Melyn, Coch, Mas

Cafodd Davies garden felen ar y pryd, ond mae disgwyl iddo gael ei gosbi’n llym heddiw.

Roedd y dacl yn ymddangos i fod yn llawer mwy difrifol na’r dacl gafodd Sam Warburton garden goch amdani yng Nghwpan y Byd 2011.

Enillodd Cymru’r gêm 23-21, ond roedd yna ddrwgdeimlad eto ar ran y Gwyddelod, yn dilyn ‘cais ffug’ enwog Mike Phillips yn eu herbyn y llynedd.

Gatland yn beirniadu Bradley

Dywedodd Gatland fod angen i Bradley Davies wella’i ddisgyblaeth er mwyn chwarae rygbi rhyngwladol.

Cafodd Bradley Davies garden felen hefyd yn y Bencampwriaeth y llynedd, yn erbyn yr Alban.

“Dyw e ddim yn rygbi clwb, lle dewch chi bant a’r pethau ’ma.

Cafodd Bradley Davies garden felen gan y dyfarnwr, Wayne Barnes, ond mae yna’r disgwyliad fydd y panel disgyblaeth yn ei gosbi’n llym.

Pwy fydd yn chwarae yn  y rheng ganol?

Mae bosib fydd capten tîm Cymru, Sam Warburton, hefyd yn colli’r gêm yn erbyn yr Alban ddydd Sadwrn, yn dilyn anaf yn y gêm yn Nulyn.

A gydag Alun Wyn Jones a Luke Charteris wedi’u hanafu, fydd hi’n wythnos arall i Gatland bendroni wrth ddethol ei dim.

Bydd ei dri clo o Gwpan y Byd ddim ar gael os fydd Bradley Davies yn cael ei wahardd rhag chwarae.