James Hook
Mae hyfforddwr Cymru, Warren Gatland wedi enwi James Hook yn gefnwr ar gyfer gêm agoriadol Pencampwriaeth y Chwe Gwlad yn erbyn Lloegr.

Mae Hook wedi cael ei ffafrio yn lle cefnwr y Gweilch, Lee Byrne i wynebu’r Saeson yn Stadiwm y Mileniwm nos Wener.

Fe fydd Jonathan Davies yn dechrau yn y canol gyda Jamie Roberts.

Gyda Leigh Halfpenny allan oherwydd anaf, fe fydd chwaraewr y Scarlets, Morgan Stoddart yn dechrau ar yr asgell.

Mae Paul James a Craig Mitchell yn dechrau yn y rheng flaen yn absenoldeb Gethin Jenkins ac Adam Jones.

Carfan Cymru

Cefnwyr- James Hook (Gweilch), Morgan Stoddart (Scarlets), Jamie Roberts (Gleision), Jon Davies (Scarlets), Shane Williams (Gweilch ); Stephen Jones (Scarlets), Mike Phillips (Gweilch ).

Blaenwyr- Paul James (Gweilch), Matthew Rees (Scarlets), Craig Mitchell (Gweilch), Bradley Davies (Gleision), Alun-Wyn Jones (Gweilch), Dan Lydiate (Dreigiau ), Sam Warburton (Gleision), Andy Powell (Wasps).

Eilyddion- Richard Hibbard (Gweilch ), John Yapp (Gleision), Ryan Jones (Gweilch), Jonathan Thomas (Gweilch), Dwayne Peel (Sale), Rhys Priestland (Scarlets), Lee Byrne (Gweilch).

Carfan Lloegr

Cefnwyr- Ben Foden, Chris Ashton, Mike Tindall, Shontayne Hape, Mark Cueto, Toby Flood, Ben Youngs.

Blaenwyr- Andrew Sheridan, Dylan Hartley, Dan Cole, Louis Deacon, Tom Palmer, Tom Wood, James Haskell, Nick Easter.

Eilyddion- Steve Thompson, Dave Wilson, Simon Shaw, Joe Worsley, Danny Care, Jonny Wilkinson, Matt Banahan.