Leigh Halfpenny
Mae asgellwr Cymru, Leigh Halfpenny allan o gêm agoriadol pencampwriaeth y Chwe Gwlad oherwydd anaf.

Roedd chwaraewr y Gleision wedi anafu ei bigwrn wrth ymarfer ddoe ac mae sgan wedi cadarnhau na fydd yn gallu chwarae nos Wener.

Dyw’r anaf ddim mor ddifrifol ag oedd y tîm wedi ei ofni’r wreiddiol.

Fe fydd Halfpenny yn siŵr o golli’r ail gêm yn erbyn yr Alban yn Murrayfield hefyd ond fe fydd ar gael i herio’r Eidalwyr yn Rhufain ar 26 Chwefror.

Mae disgwyl i asgellwr y Scarlets, Morgan Stoddart, gymryd lle Halfpenny yn erbyn y Saeson.

Roedd hyfforddwyr Cymru wedi ystyried galw ar chwaraewr ychwanegol i ymuno â’r garfan, ond maen nhw wedi penderfynu cadw pethau fel y maent.

Fe fydd Leigh Halfpenny yn aros gyda’r garfan wrth iddo wella o’r anaf.