Lee Byrne
Mae disgwyl i gefnwr Cymru Lee Byrne adael y Gweilch i ymuno gyda Clermont y tymor nesaf.

Roedd cyfarwyddwr rygbi’r Gweilch, Scott Johnson, wedi dweud bod y rhanbarth yn fodlon ystyried unrhyw gynigion am y cefnwr.

Dyw cytundeb presennol Byrne ddim yn dod i ben nes 2012, ond mae’n debyg fod Clermont wedi cytuno i dalu iawndal i’r Gweilch.

Bydd disgwyl i Gareth Owen neu Barry Davies hawlio crys rhif 15 y Gweilch yn dilyn ymadawiad Byrne.

Ond mae yna adroddiadau y bydd y Gweilch yn ceisio denu cefnwr Seland Newydd, Mils Muliaina, i’r rhanbarth ar ôl Cwpan y Byd.