Paul Turner
Mae Lyn Jones yn ffefryn i gael ei benodi yn brif hyfforddwr y Dreigiau pe na bai Paul Turner yn dychwelyd i’w swydd.

Cafodd cyn-hyfforddwr y Gweilch ei benodi i swydd ymgynghorol gyda’r Dreigiau dwy flynedd yn ôl ond bellach yn dysgu mewn ysgol yn y dwyrain canol.

Mae’n debyg ei fod yn awyddus i ddychwelyd i hyfforddi clwb rygbi yn y dyfodol agos.

Mae Turner wedi ei atal o’i swydd dros dro hyd nes y bydd yn wynebu gwrandawiad disgyblaethol.

Mae’r rhanbarth yn ymchwilio ar ôl i Turner feirniadu staff meddygol Tîm Rygbi Cymru ar ôl i Dan Lydiate dychwelyd o brawf ffitrwydd gydag anaf.

Roedd yr hyfforddwr hefyd wedi ffraeo gyda newyddiadurwr ar ôl cael ei holi am ei ddyfodol.

Mae hyfforddwyr cynorthwyol y Dreigiau, Darren Edwards, Danny Wilson a Shaun Connor wedi cymryd yr awenau dros dro.

Roedden nhw’n llwyddiannus yn eu gêm gyntaf wrth i’r Dreigiau faeddu Sale 20-28 nos Wener.

Kingsley Jones

Mae cyfarwyddwr rygbi Sale, Kingsley Jones, hefyd ymysg y ffefrynnau ar gyfer y swydd pe bai Turner yn gadael y rhanbarth yn barhaol.

Ond mae Jones hefyd wedi ei gysylltu gyda swydd hyfforddwr cynorthwyol Toulon.