Mae Tyler Morgan yn un o chwech o chwaraewyr fydd yn gadael rhanbarth y Dreigiau ar ddiwedd y tymor.

Y pump arall yw Cory Hill, oedd eisoes wedi cyhoeddi ei ymadawiad, Jacob Botica, Nic Cudd, Rhys Lawrence a James Sheekey.

Daw ymadawiad Tyler Morgan, 24, ar ôl saith tymor gyda’r rhanbarth.

Mae e wedi chwarae mewn 89 o gemau, ac roedd e’n aelod o garfan Cymru yng Nghwpan y Byd yn 2015.

Oddi ar y cae, bydd Ceri Jones, hyfforddwr y blaenwyr, hefyd yn gadael ar ddiwedd y tymor.

‘Diolch’

“Rydym yn diolch i’r holl chwaraewyr am eu gwaith caled a’u proffesiynoldeb yn ystod eu hamser gyda’r rhanbarth,” meddai Dean Ryan, cyfarwyddwr rygbi’r Dreigiau.

“Mae’r holl chwaraewyr yn gadael gyda’n dymuniadau gorau ar gyfer eu huchelgais yn y dyfodol yn y byd rygbi neu i ffwrdd o’r gêm.”

Mae Dean Ryan hefyd wedi talu teyrnged i Ceri Jones.

“Mae pawb yn y Dreigiau’n ddiolchgar i Ceri am ei ymdrechion yn ystod ei gyfnod gyda’r rhanbarth, ac rydym oll yn dymuno’r gorau iddo yn y bennod nesaf yn ei yrfa’n hyfforddi.”