Heddiw daeth y cadarnhad hir ddisgwyliedig fod taith haf tîm rygbi Cymru i Japan a Seland Newydd wedi cael ei gohirio oherwydd y coronafeirws.

Dyma’r digwyddiad diweddaraf o fyd y campau sydd wedi ei daro gan y pan demig.

Mae disgwyl i rygbi domestig ailddechrau yn Seland Newydd fis Mehefin.

Ond mae’n edrych yn debyg y bydd hi’n amser hir iawn nes y bydd cefnogwyr yn gallu mwynhau unrhyw rygbi lleol, rhanbarthol neu genedlaethol yma yng Nghymru.

 Mae’n teimlo fel oes ers gohirio gêm olaf y Chwe Gwlad eleni yn erbyn Yr Alban.

Roedd yn dro pedol yn ddadleuol, ac er bod y stadiwm yn wag y penwythnos hwnnw roedd strydoedd a thafarndai Caerdydd yn orlawn.

Yn ddiweddarach gorfodwyd Undeb Rygbi Cymru i roi terfyn ar y tymor rygbi gan gadarnhau eu bod nhw’n disgwyl gwneud colledion ariannol sylweddol eleni.

Yr un yw’r neges ledled y byd. Ers i Rygbi’r Byd greu cronfa o $100 miliwn i gynorthwyo undebau, mae Rygbi’r Unol Daleithiau eisoes wedi mynd i’r wal, ac mae Rygbi Awstralia – oedd â phroblemau ariannol ymhell cyn y pandemig – wedi gorfod derbyn cefnogaeth.

Wrth i ni edrych yn bryderus tua’r gwledydd hyn mae Prif Hyfforddwr Cymru, Wayne Pivac a chwaraewyr sy’n ennill mwy na £25,000 y flwyddyn wedi cymryd toriad cyflog, a’r rhanbarthau bellach yn ddibynnol ar gynllun ffyrlo y llywodraeth i dalu staff a chwaraewyr.

Hunllef ariannol

Mae’n aneglur eto os bydd hyd yn oed modd chwarae gemau y tu ôl i ddrysau caeedig eleni. Gan fod pob gêm gartref yn creu incwm oddeutu £4 miliwn bydd Undeb Rygbi Cymru, sy’n clodfori ei hunan am ddargyfeirio incwm o gemau rhyngwladol yn syth i glybiau lleol ar lawr gwlad, yn awyddus i ailddechrau chwarae mor fuan â phosib.

Ond gan fod y stadiwm cenedlaethol wedi ei droi yn ysbyty dros dro am gyfnod amhenodol, mae Prif Weithredwr Rygbi Cymru, Martyn Phillips, yn amau bydd dim dewis ganddyn nhw ond chwarae rhywle arall, neu wynebu’r hunllef ariannol o beidio chwarae eto eleni.

Er hyn, yn ôl Paul Stridgeon, Hyfforddwr Perfformiad Corfforol y tîm cenedlaethol, gall cyfnod estynedig i ffwrdd o’r cae rygbi weithio o blaid Cymru. Wrth siarad â phodlediad ScrumV yn ddiweddar, awgrymodd yr hyfforddwr dylanwadol y gallai’r cyfnod yma ymestyn gyrfaoedd rhai o chwaraewyr mwyaf profiadol Cymru fel Alun Wyn Jones a Ken Owens.

Y gwir ydy, pe bai gemau’r Hydref yn erbyn Yr Alban, Seland Newydd, De Affrica, Yr Ariannin a Fiji ddim yn cael eu chwarae, gallai hyn arwain at golledion difrifol i’r gêm ehangach yng Nghymru.

Rygbi lleol

Mae’r gêm genedlaethol wedi ei gwreiddio yn ein cymunedau a’i gwerth cymunedol yn gliriach nag erioed, ond mae’r realiti yn boen meddwl dyddiol i’r rheini mae eu bywydau’n troi o amgylch eu clybiau lleol.

Wrth i glybiau ar draws y wlad godi arian i’r Gwasanaeth Iechyd a chefnogi’r bobol fwyaf bregus mewn cymdeithas, mae Gareth Davies, Cadeirydd Undeb Rygbi Cymru wedi dweud fod clybiau rygbi lleol yn destun balchder iddo.

Heb os bydd yr effaith i’w deimlo ym mhob un o’r 300 o glybiau yng Nghymru, a phwy â ŵyr faint o’r clybiau hyn fydd yn dal i fodoli ar ôl y cyfnod yma.

I nifer o gefnogwyr a chwaraewyr dyma fydd y cyfnod hiraf iddyn nhw dreulio i ffwrdd o gaeau rygbi. Am nawr bydd rhaid bodloni ar ail-wylio clasuron o’r gorffennol… ac mae’r freuddwyd o fynd i fwynhau’r gêm gyntaf honno ar ôl i’r cyfyngiadau gael eu llacio yn ein cadw i fynd.

Pan ddaw’r diwrnod hwnnw bydd y frwydr ar y cae yn galetach, bydd y cyd-ganu yn uwch a bydd yr emosiynau cymaint yn fwy – bydd yn achlysur i’w thrysori.