Mae Tom James, cyn-asgellwr tîm rygbi Cymru, wedi ymddeol yn 33 oed.

Enillodd e 12 o gapiau dros ei wlad, ac mae’n brif sgoriwr ceisiau’r Gleision, gyda 60.

Treuliodd e gyfnodau gyda Chaerwysg ac yn fwyaf diweddar, y Scarlets cyn rhoi’r gorau iddi.

Fe gamodd e i ffwrdd o’r byd rygbi am gyfnod ym mis Ionawr 2018 yn ystod ei ail gyfnod gyda’r Gleision, a hynny wrth iddo fyw ag iselder.

Mae’n dweud iddo wneud y penderfyniad i ymddeol “ar ôl cael llawer o amser i feddwl”.

Mae’n dweud iddo gael “profiad gwych” yn y byd rygbi, a bod ganddo fe “atgofion hyfryd dros 14 o flynyddoedd”.

“Dw i wedi bod yn ddigon ffodus i gael fy hyfforddi gan yr hyfforddwyr gorau ac wedi chwarae â rhai o’r chwaraewyr gorau yn y byd, gan gynnwys fy arwr Gareth Thomas.

“I’r holl gefnogwyr, i’r teulu rygbi cyfan, alla i ddim diolch digon i chi gyd, ond mae’r diolch mwyaf i ’nheulu fy hun, fy ffrindiau a’r bobol niferus sydd wedi fy helpu yn ystod fy ngyrfa.”

Teyrnged

“Dw i wrth fy modd dros TJ ei fod e wedi cael y profiad positif yma yn y Scarlets, a’i fod e bellach yn gallu gwneud y penderfyniad hwn ar ei delerau ei hun,” meddai Brad Mooar, prif hyfforddwr y Scarlets.

“Ar ôl mwynhau gyrf ragorol, mae pawb ohonom yn y Scarlets yn dymuno’n dda i TJ, Brooke a’u plant ar gyfer y dyfodol.”