Mae’r chwaraewr rygbi Jamie Roberts, sydd hefyd yn feddyg, wedi datgelu iddo deimlo “hiraeth” a “thristwch eithriadol” wrth ymweld ag Ysbyty Calon y Ddraig yn Stadiwm Principality am y tro cyntaf.

Mae’n chwarae i’r Stormers yn Ne Affrica ac wedi ennill 94 o gapiau dros Gymru, ond mae e wedi dychwelyd adref i wirfoddoli gyda’r Gwasanaeth Iechyd i ymladd y coronafeirws.

Mewn blog, mae’r chwaraewr rygbi sydd â gradd feddygol o Brifysgol Caerdydd, yn sôn am y profiad o ymweld â’r stadiwm sydd wedi ei throi yn ysbyty dros dro.

“Wrth ymweld â Stadiwm Principality cefais ddos bach o hiraeth,” meddai.

“Fel rheol, ar ôl chwarae, byddai chwaraewyr yn ymuno â theulu a ffrindiau yn lolfa’r llywydd.

“Mae gen i lawer o atgofion melys a drwg yno!

“Roedd fy emosiynau’n hollol wahanol yn ymweld â’r lolfa’r prynhawn yma a’i gweld am y tro cyntaf wedi ei thrawsnewid yn ward ysbyty i drin cleifion sydd â’r coronafeirws.”

Ymdrech arwrol

“Mae ymdrechion Undeb Rygbi Cymru a phob gweithiwr sydd wedi helpu trawsnewid Stadiwm Principality yn arwrol,” meddai wedyn.

“Wrth edrych dros y cae, sylweddolais faint y gwaith, ac arweiniodd hyn at deimlad o dristwch eithriadol.

“Ond mae hi’n bwysig canolbwyntio ar bwrpas y gwaith. Hynny yw, achub bywydau.

“Rydym i gyd yn gobeithio am y gorau ond mae’n rhaid paratoi a chynllunio ar gyfer y gwaethaf.

“Mewn ffordd, rydym yn gobeithio y bydd y gwaith yn y stadiwm yn mynd yn ofer.”

Ysbyty Calon y Ddraig

Ysbyty Calon y Ddraig fydd yr ysbyty fwyaf yng Nghymru, a’r ail fwyaf yng ngwledydd Prydain.

Mae 300 o wlâu ar gael yn yr ysbyty dros dro ar hyn o bryd, ac mae disgwyl i hyn gynyddu i 2000 erbyn i’r gwaith adeiladu ddod i ben.

Mae disgwyl y bydd tua 2,500 o staff yn gweithio yn yr ysbyty.