Mae’n debyg nad yw’r canolwyr Hadleigh Parkes ac Owen Williams wedi diweddaru eu cytundebau, a bod y ddau yn edrych i symud i glybiau yn Japan y tymor nesaf.

Oherwydd y rheol 60 cap sydd mewn lle gan Undeb Rygbi Cymru i gadw chwaraewyr yng Nghymru, byddai symud i Japan yn golygu na fyddai’r ddau bellach yn gymwys i gael eu dewis i chwarae i Gymru.

Hadleigh Parkes

Mae Hadleigh Parkes, a gafodd ei eni yn Seland Newydd, wedi bod yn chwarae i’r Scarlets ers 2014. Mae’r canolwr sy’n gymwys i chwarae i Gymru ar sail preswyliad, ac mae bellach wedi ennill 29 o gapiau ers chwarae ei gem gyntaf yn erbyn De Affrica dair blynedd yn ôl.

Ar ôl chwarae ym mhob un o gemau Cymru yng Nghwpan y Byd y llynedd yn Japan mae disgwyl i’r canolwr 32 oed ddychwelyd yno i chwarae i dîm Kobe Steel.

Yno, byddai’n ymuno a Dan Carter a Brodie Retallick o Seland Newydd, yn ogystal ag un o sêr mwyaf rygbi Awstralia, Adam Ashley-Cooper.

29 o gapiau sydd ganddo, felly ni fyddai’n gymwys i chwarae i Gymru ar ôl symud i Japan – ond byddai dal modd iddo gael ei ddewis gan Warren Gatland i chwarae i’r Llewod sydd yn teithio i Dde Affrica y flwyddyn nesaf.

Owen Williams

Ar ôl cyfres o anafiadau dim ond 3 cap sydd gan Owen Williams i Gymru.

Er iddo gael ei enwi ar y fainc i wynebu Iwerddon eleni, fe gafodd anaf i linyn y gâr wrth gynhesu cyn y gêm.

Mae Owen Williams ymysg y rhai sy’n ennill y cyflogau uchaf yng ngharfan Caerloyw.

Roedd disgwyl iddo ddychwelyd i chwarae i’r Gweilch neu’r Dreigiau’r tymor nesaf, ond mae’n debyg nad oedd y rhanbarthau yn gallu cystadlu gyda’r arian oedd yn cael ei gynnig yn Japan.

Oherwydd y coronafeirws bu rhaid i chwaraewyr rygbi Cymru gymryd toriad cyflog o 25% yr wythnos hon.

Nid yw’n glir pryd yn union y bydd Cymru’n chwarae nesaf: ar daith yr haf i Seland Newydd neu gêm y Chwe Gwlad yn erbyn Yr Alban sydd wedi’i haildrefnu ar gyfer yr Hydref.