Mae Ross Moriarty wedi llofnodi cytundeb “tymor hir” i aros gyda’r Dreigiau.

Mae’r wythwr, sydd wedi ennill 45 o gapiau dros Gymru, wedi treulio dau dymor gyda’r rhanbarth yng Nghasnewydd.

A daw’r penderfyniad i aros ddyddiau’n unig ar ôl i’r chwaraewr ail reng Cory Hill adael y rhanbarth am y Gleision.

Roedd datblygiad y rhanbarth o dan arweiniad Dean Ryan, y cyfarwyddwr rygbi, yn ffactor allweddol yn ei benderfyniad, meddai’r chwaraewr 25 oed.

“Dw i wedi mwynhau’r tymor diwethaf gyda’r Dreigiau a gall pawb weld ein bod ni’n symud i’r cyfeiriad cywir,” meddai wrth wefan Undeb Rygbi Cymru.

“Cawson ni ganlyniadau da y tymor hwn a dw i’n teimlo y byddwn ni’n datblygu ar ôl dechrau chwarae eto.

“Alla i ddim aros i gael chwarae yn Rodney Parade eto, roedd yr awyrgylch gawson ni ar gyfer y gêm ddarbi y tymor hwn yn arbennig iawn.

“Mae Dean wedi gwneud gwahaniaeth mawr ers iddo fe ymuno, ac mae e wedi ’nghael i’n mwynhau rygbi eto ac mae hynny wedi fy nilyn i mewn i’r gemau rhyngwladol, hyd yn oed os na chawson ni’r canlyniadau bydden ni wedi hoffi eu cael.”

‘Ymroddiad’

“Rydyn ni wrth ein boddau o gael sicrhau gwasanaeth Ross yn y Dreigiau,” meddai Dean Ryan.

“Mae ei benderfyniad i adnewyddu ei gytundeb yn dangos ei ymroddiad a’i fod e’n credu yn yr hyn rydyn ni’n ei wneud yma.

“Yn bwysicach, mae e hefyd yn teimlo y gallwn ni ei helpu i wireddu ei uchelgais dros y tymhorau nesaf.”