Er bod Undeb Rygbi Cymru ac undebau rygbi eraill ar draws y byd wedi rhoi terfyn ar y tymor rygbi oherwydd y coronafeirws mae disgwyl i bwyllgor Rygbi’r Byd gyfarfod fis nesaf i drafod rheol newydd fyddai’n trawsnewid y gêm.

Y tymor diwethaf cafodd rheol 50:22 ei dreialu yng Nghynghrair Rygbi Cenedlaethol Awstralia ac mae disgwyl i’r rheol gael ei chymeradwyo yn fyd eang mewn pryd ar gyfer y tymor nesaf.

Y rheol 50:22

Byddai’r rheol newydd yn caniatáu i’r tîm sy’n ymosod daflu i’r llinell os bydd cic o’u hanner nhw yn bownsio dros ystlys dwy ar hugain y gwrthwynebwyr.

Ar hyn o bryd byddai cic o’r fath yn golygu bod y tîm amddiffynnol yn taflu i’r llinell.

Yn ei dro, y gobaith yw y bydd hyn yn gorfodi timau sy’n amddiffyn i wasgaru eu llinell amddiffynnol ar draws y cae gan leihau’r gyfran uchel o anafiadau sy’n digwydd yn ardal y dacl ar y llinell amddiffynnol.

Y gobaith yw y bydd hyn yn gwneud y gêm yn fwy agored ac yn annog chwaraewyr sy’n ymosod i ddod o hyd i fylchau yn y llinell amddiffynnol yn hytrach na’r dull ‘crash ball’ sydd i’w weld ar hyn o bryd.

Creu lle a lleihau anafiadau

Wedi ei ddylanwadu gan reol 40:22 yn rygbi’r gynghrair mae rygbi’r undeb yn gobeithio bydd y rheol 50:22 yn annog chwaraewyr i ailasesu technegau amddiffynnol, ac yn ei dro yn lleihau’r nifer o anafiadau ac anafiadau i’r pen.

Mae ymchwil yn dangos mai ardal y dacl sy’n gyfrifol am 50% o anafiadau ar y cae rygbi, ac mae yno hefyd mae 76% o anafiadau i’r pen yn digwydd.

Dywedodd Cadeirydd Rygbi’r Byd, Bill Beaumont: “Mae Rygbi’r Byd wedi ymrwymo i sicrhau bod rygbi mor syml a diogel â phosibl i bawb.

“Er nad yw nifer yr anafiadau yn y gamp yn cynyddu a bod nifer yr achosion o anafiadau i’r pen yn lleihau, mae’n rhaid i ni wneud mwy i leihau anafiadau ar bob lefel.”