Bydd prif hyfforddwr tîm rygbi Cymru, Wayne Pivac, a phrif weithredwr Undeb Rygbi Cymru, Martyn Phillips, yn cymryd toriad cyflog o 25% yn ystod y pandemig coronafeirws.

Dywed Undeb Rygbi Cymru ei bod wedi cyhoeddi “mesurau pellach i leihau costau yn ystod y cyfnod presennol o anactifedd yn y gêm yng Nghymru.”

Ychwanegodd: “Gyda dim digwyddiadau mewn stadiymau ar hyn o bryd a phwysau cynyddol ar lifai incwm eraill, ac yn dilyn adolygiad ar ddyddiadau posibl i rygbi ddychwelyd, mae cynllun ar gyfer arbed costau wedi cael ei gyflwyno.

“Mae rhan gyntaf y cynllun, sef lleihau ein costau a chynnal adolygiad o brosiectau cyfredol, eisoes wedi arbed arian i Undeb Rygbi Cymru. Mae ail ran y cynlyn yn cynnwys adolygiad o gostau staff.”

Yn gynharach y mis hwn, canslodd Undeb Rygbi Cymru holl gystadlaethau cynghrair a chwpan yng Nghymru am y tymor yn sgil y pandemig coronafeirws.

Bydd tri o fesurau newydd yn cael eu mabwysiadu ar draws y busnes o’r cyntaf o Ebrill:

  • Bydd staff rygbi uwch, gan gynnwys y prif hyfforddwr Wayne Pivac, a gweithredwyr Undeb Rygbi Cymru gan gynnwys y prif weithredwr Martyn Phillips, yn cymryd toriad cyflog o 25%.
  • Yn unol ag anghenion y busnes, bydd angen i staff pellach gymryd toriad cyflog o naill ai 25% neu 10% yn ddibynnol ar ba raddfa mae eu swyddi’n perthyn yn uniongyrchol i rygbi proffesiynol.
  • Seibiant, yn unol â Chynllun Cadw Swydd y llywodraeth, mewn grym lle mae’n bosib tan ddiwedd mis Mai.

Yn y cyfamser, mae staff yn Stadiwm y Principality yng Nghaerdydd wedi cael cynnig i weithio’n llawn amser yn cefnogi staff y Gwasanaeth Iechyd Gwladol wrth i’r stadiwm genedlaethol gael ei droi mewn i ysbyty cwbl weithredol.

“Dwi wedi cael fy nharo gan ymdrechion ag agwedd staff holl staff Undeb Rygbi Cymru yn ystod yr argyfwng,” meddai Martyn Phillips.

Yn yr Alban, mae Gregor Townsend hefyd wedi cytuno i doriad cyflog o 25% dros dro.