Mae ffrind a chyd-chwaraewr rygbi Matthew J Watkins yn galw ar bobol i wisgo lliwiau llachar ar gyfer ei angladd, fydd yn cael ei ffrydio ar y we heddiw (dydd Mawrth, Mawrth 31).

Bu farw’r dyn 41 oed o ganser y pelfis yn gynharach y mis hwn, ond dim ond deg o bobol sy’n cael bod yn yr angladd yn Amlosgfa Thornhill yng Nghaerdydd o ganlyniad i’r coronafeirws.

 

Mae trefnwyr angladdau Woodfield Park yn y Coed Duon yn ffrydio’r gwasanaeth yn fyw ar y we am 2 o’r gloch.

 

Mae Alix Popham yn gofyn i bobol wisgo lliwiau llachar, tei rygbi neu fathodyn clwb rygbi yn ystod y gwasanaeth.

 

Enillodd Matthew J Watkins 18 o gapiau dros Gymru rhwng 2003 a 2006, gan chwarae i Gasnewydd, y Dreigiau, y Scarlets a Chaerloyw.

 

Mae’n gadael gwraig, Stacey, a dau o feibion, Siôr a Tal.