Mae Gareth Davies, cadeirydd Undeb Rygbi Cymru, wedi ysgrifennu at glybiau rygbi yng Nghymru yn canmol eu hymateb i benderfyniad yr Undeb i ganslo’r tymor rygbi oherwydd y coronafeirws.

Golyga hyn na fydd rhai timau yn cael dyrchafiad haeddiannol.

Eglura Gareth Davies, sydd wedi bod yn gadeirydd Undeb Rygbi Cymru ers 2014, fod “nifer o glybiau yn siomedig, ond pob un yn deall y sefyllfa yr ydym i gyd ynddi.”

“Mae’r clybiau yn destun balchder – yn cefnogi ei gilydd a’r bobol fwyaf bregus yn ein cymdeithas.”

Yr wythnos diwethaf, cadarnhaodd Undeb Rygbi Cymru eu bod nhw’n disgwyl gwneud colledion ariannol sylweddol eleni.

Er hyn, cadarnhaodd Gareth Davies y byddai taliadau grant yn cyrraedd y clybiau fel arfer fis Ebrill, yn ogystal â thaliad ychwanegol o £1,000 i gefnogi pob clwb.

Mae hi wedi bod yn flwyddyn anodd i nifer o glybiau – yn ogystal â’r coronafeirws yn gynharach eleni, cafodd nifer o glybiau eu heffeithio gan lifogydd yn dilyn stormydd Ciara a Dennis.

Edrych tua’r dyfodol

“Mae’r aildrefnu digwyddiadau yn rhywbeth sy’n dal i gael ei ystyried,” meddai Martyn Phillips, prif weithredwr Undeb Rygbi Cymru.

“Canlyniad da fyddai bod y pandemig yn tawelu erbyn mis Mai neu fis Mehefin ac y gallai’r tymor hwn gael ei gwblhau yn yr haf, ond yr hyn sy’n rhaid i ni ei wneud yn y cyfamser yw cynllunio ar gyfer pob sefyllfa.”

Mewn cyfweliad gyda Wales Online, dywed Martyn Phillips ei fod yn ffyddiog y bydd Cymru yn gallu teithio i Japan a Seland Newydd ar gyfer eu taith haf eleni.

Er hyn, mae’n cydnabod y gallai hyn newid pe bai Llywodraeth Prydain yn penderfynu ymestyn y cyfyngiadau am gyfnod hirach.