Mae Stadiwm y Principality wedi cyhoeddi camau ychwanegol i ddelio â coronavirus ar gyfer gêm rygbi Cymru yn erbyn yr Alban ym Mhencampwriaeth y Chwe Gwlad ddydd Sadwrn (Mawrth14).

Mi fydd mannau glanhau dwylo ar gael i bobol eu defnyddio ym mhob rhan o’r Stadiwm.

Yn ogystal â hyn bydd Gwasanaeth Ambiwlans Cymru a Sant Ioan ar gael i gynorthwyo gydag argyfyngau meddygol, ac mae stiwardiaid sydd yn gweithio yn y digwyddiad hefyd wedi cael arweiniad ar coronavirus.

“Lles ein staff a’n cefnogwyr yw ein prif flaenoriaeth,” meddai llefarydd ar ran y stadiwm.

“Rydym yn dilyn canllawiau’r llywodraeth a’r rhai a nodwyd gan Iechyd Cyhoeddus Cymru a Sefydliad Iechyd y Byd.”

Gêm Cymru yn erbyn Yr Alban yw’r unig gêm sy’n cael ei chwarae ym Mhencampwriaeth y Chwe Gwlad y penwythnos yma ar ôl i gêm Yr Eidal yn erbyn Lloegr, a Ffrainc yn erbyn Iwerddon gael eu gohirio oherwydd y firws.

Disgyblaeth

Ar drothwy’r gêm, mae’r is-hyfforddwr Neil Jenkins yn rhybuddio am bwysigrwydd disgyblaeth i Gymu yn erbyn yr Albanwyr.

Daw’r sylwadau ar ôl gêm danllyd yn erbyn Lloegr yn Twickenham yr wythnos ddiwethaf.

Mae disgwyl i brop Lloegr, Joe Marler, y clo Courtney Lawes a’r canolwr Manu Tuilagi wynebu panel disgyblu World Rugby yn Nulyn ddydd Iau (Mawrth 12).

Mae Joe Marler yn wynebu’r panel disgyblu am gyffwrdd genitalia Alun Wyn Jones, Courtney Lawes oherwydd tacl beryglus, tra derbyniodd Tuilagi gerdyn coch am dacl uchel ar asgellwr Cymru, George North.

“O fy safbwynt i, dwi’n ffyddiog bydd y panel disgybli yn delio a’r achosion yn y modd cywir, does gen i ddim amheuaeth am hynny,” meddai Neil Jenkins.

“Mae rygbi yn gêm gorfforol ac anfaddeuol felly bydd disgyblaeth yn holl bwysig yn erbyn Yr Alanwyr, ni allwch fforddio cardiau melyn a choch.

“Mae disgyblaeth yn holl bwysig ym mhob chwaraeon, yn enwedig mewn rygbi o’r lefel uchaf.”