Mae Nick Tompkins yn cyfaddef y bydd cael chwarae dros Gymru yn erbyn Lloegr ym Mhencampwriaeth y Chwe Gwlad yn Twickenham yfory (dydd Sadwrn, Mawrth 7) yn “teimlo’n swreal”.

Cafodd y canolwr 24 oed ei eni yn Sidcup, ond mae’n gymwys i gynrychioli Cymru drwy ei fam-gu ar ochr ei fam, er ei fod e wedi cynrychioli timau oedran Lloegr dros y blynyddoedd.

“Roedd lot fawr o bobol eisiau tocynnau, ond do’n i ddim wedi gallu eu cael nhw i bawb,” meddai.

“Gallwch chi gael dau neu dri ond mae’r ceisiadau’n dechrau pentyrru. Dw i ddim yn eu caru nhw gymaint â hynny!

“Ry’n ni’n tynnu coes Dad, gan fod holl deulu Mam o Gymru. Ry’n ni wedi bod yn tynnu ei choes hithau dros y blynyddoedd hefyd, sy’n eironig!

“Mae’n teimlo ychydig yn swreal, ond fydd hynny ddim yn fy nharo i nes bo fi yno’n canu’r anthem genedlaethol. Dyw’r peth ddim wedi suddo i mewn eto.”

Gyrfa ryngwladol annisgwyl

Ar ôl troi ei sylw o Loegr i Gymru, mae’n cyfaddef fod yna adeg dros y blynyddoedd diwethaf pan nad oedd e’n sicr o’i ddyfodol ar lefel y clybiau, heb sôn am y llwyfan rhyngwladol.

Bydd e’n herio nifer o’i gyd-chwaraewyr yn y Saraseniaid, gan gyfaddef ei fod e wedi teimlo cenfigen ar hyd y blynyddoedd.

“Dw i wedi chwarae yn Twickenham i’r Saraseniaid o’r blaen, bydd hynny’n anhygoel ac yn brofiad newydd i fi.

“Pan ydych chi’n chwarae yn erbyn eich ffrindiau, allwch chi ddim aros i ddial arnyn nhw, ac mae hynny’n beth cyffrous.

“Alla i ddim aros i’w gweld nhw gan bo fi heb eu weld nhw ers peth amser.

“Rydych chi’n gweld yr holl fois yma’n cael cyfleoedd ac yn manteisio arnyn nhw, ac yn cwestiynu pam nad ydych chi’n eu cael nhw.

“Ond rydych chi’n sylweddoli wedyn fod yna bethau sy’n rhaid i chi eu gwneud yn well a do’n i ddim yn eu gwneud nhw. Sylweddolais i hynny ryw ddwy flynedd yn ddiweddarach.

“Roedd hi’n fwy anodd i fi gael cyfleoedd fel canolwr gyda’r holl ganolwyr da sy’n chwarae, ac fe wnes i ddechrau rheoli pethau ro’n i’n gallu eu rheoli.

“Mae’n anodd bod gyda chlwb da ac mae’n rhaid i chi fod yn amyneddgar. Ond dw i’n barod nawr.

“Dw i eisiau dangos i bobol pam dw i yma, ac mae hynny’n gryfach o lawer na’r cyfan wnes i golli allan arno fe.”

Dyfodol yng Nghymru?

Ar ôl sgorio cais yn ei gêm ryngwladol gyntaf yn erbyn yr Eidal a gwneud enw iddo fe ei hun yng nghrys y Saraseniaid, mae Nick Tompkins wedi denu sylw’r rhanbarthau Cymreig.

Ac mae’n debygol y bydd e’n croesi Clawdd Offa y tymor nesaf wrth i’r Saraseniaid baratoi am fywyd allan o’r Uwch Gynghrair yn dilyn cyfnod cythryblus yn ariannol.

Ond mae’n gwrthod dweud ar hyn o bryd ble fydd e’n chwarae’r tymor nesaf.

“Gadewch i ni weld beth sydd gan y dyfodol i’w gynnig,” meddai.

“Dw i gyda’r Saraseniad yn y tymor hir.

“Mae yna bosibiliadau eraill a dw i eisiau chwarae ar lefel uchel felly bydd rhaid i ni aros i weld beth fydda i’n ei wneud.

“Dw i ddim wedi cael cyfle i ganolbwyntio ar hynny oherwydd fod [Pencampwriaeth y Chwe Gwlad] yn hawlio’r holl sylw.”

Canolbwyntio ar Gymru

Mae’n dweud bod Iwerddon wedi bod yn “addysg” iddo fe, a bod camu i’r llwyfan rhyngwladol “yn gam mawr”.

“Y peth mwya’ i fi yw’r holl sylw o’i gwmpas e, nid y rygbi ei hun.

“Rydych chi’n dysgu sut i ymdopi â’r pwysau, dw i’n ceisio canolbwyntio ar chwarae fy ngêm a chwarae yn yr un modd â dw i wedi’i wneud i’r Saraseniaid, a dyna’r cyfan allwch chi ei wneud.

“Fe fu’n anodd ac yn emosiynol ar ôl y gêm yn erbyn Ffrainc, o gwympo’n brin o’r nod, ond rydych chi’n ei fwynhau e beth bynnag.”

Mae’n dweud mai “peidio â phasio’r bêl i’r gwrthwynebwyr” yw’r wers fwyaf o’r gêm, ar ôl i’w bàs lac arwain at gais i Romain Ntamack.

“Ro’n i’n hollol siomedig oherwydd roedd y momentwm gyda ni ac fe symudodd e rywfaint wedi hynny.

“Dw i wedi dweud wrtha’ i fy hun na allwch chi adael i rywbeth fel ’na eich diffinio chi. Naw gwaith allan o ddeg, fyddwn i ddim yn pasio’r bêl honno.

“Dyw dwy golled ddim yn ddigon da, ry’n ni’n gwybod hynny, ond mae’r perfformiadau wedi bod yn dda.

“Roedd Iwerddon yn anodd ac yn rhywbeth wnaethon ni i frifo’n hunain, ond roedd Ffrainc yn berfformiad da gyda chamgymeriadau.

“Ry’n ni’n gwybod fod digon i adeiladu arno fe, ond does dim angen i chi godi eich hun ar gyfer gêm Lloegr yn erbyn Cymru!”