Mae tîm rygbi Cymru’n parhau â’u ymgyrch ym Mhencampwriaeth y Chwe Gwlad ddydd Sadwrn (Mawrth 4) yr erbyn Lloegr yn Twickenham.

Yma, mae Golwg360 yn edrych ar dair o’r teithiau gorau Cymru i bencadlys rygbi Lloegr, a thair o’r gwaethaf.

 Y Goreuon

 Lloegr 19 Cymru 26 (Chwefror 2, 2008)

Allai prif hyfforddwr newydd Cymru Warren Gatland ddim bod wedi gallu cael gêm fwy anodd i ddechrau ei yrfa gyda Chymru na Lloegr yn Twickenham.

Ond bu i dîm oedd yn cynnwys 13 o chwaraewyr y Gweilch – asgellwr y Scarlets, Mark Jones, a blaenasgellwr y Gleision, Martyn Williams – drechu’r hen elyn.

Ar ei hôl hi o 16-6 ar yr egwyl, tarodd Cymru’n ôl gyda cheisiau gan Lee Byrne a Mike Phillips, wrth i James Hook gicio 16 o bwyntiau.

Hon oedd buddugoliaeth gyntaf Cymru yn Twickenham ers 20 mlynedd a chwe wythnos yn ddiweddarach, enillodd y tîm y Gamp Lawn.

Lloegr 12 Cymru 19 (Chwefror 25, 2012)

Hawliodd Cymru fuddugoliaeth ddramatig wrth i brif hyfforddwr dros dro Lloegr, Stuart Lancaster golli ei gêm gyntaf wrth y llyw.

Ciciodd Owen Farrell a Leigh Halfpenny bedair cic gosb yr un gyda gêm gyfartal yn edrych yn debygol.

Ond yna, sgoriodd ganolwr Cymru Scott Williams gais penigamp gyda phum munud yn weddill gyda Leigh Halfpenny’n ychwanegu dau bwynt.

Daliodd Cymru ymlaen i ennill y Goron Driphlyg yn dilyn pwysau didostur gan Loegr ym munudau olaf yr ornest.

Lloegr 25 Cymru 28 (Medi 26, 2015)

Roedd hon yn fuddugoliaeth syfrdanol wnaeth gyfrannu at Loegr yn dod y deiliaid cyntaf i adael Cwpan y Byd yn y grwpiau.

Llwyddodd Cymru i wyrdroi 10 pwynt o fantais er eu bod nhw wedi colli tri o’u holwyr – Liam Williams, Scott Williams a Hallam Amos –  i anaf.

Bu’n rhaid i’r mewnwr Lloyd Williams chwarae ar yr asgell, a’i gic e arweiniodd at Gareth Davies yn croesi am gais allweddol, tra ciciodd y maswr Dan Biggar 23 o bwyntiau.

Y Gwaethaf

Lloegr 60 Cymru 26 (Chwefror 1998)

Daeth Lloegr y tîm cyntaf i sgorio dros 50 o bwyntiau mewn gêm ym Mhencampwriaeth y Pum Gwlad.

Roedd Cymru ar y blaen ar ôl 30 munud, yna sgoriodd Loegr 21 pwynt mewn saith munud cyn hanner amser.

Aeth y tîm cartref ymlaen i sgorio wyth cais, gyda’r maswr Paul Grayson yn cicio 20 o bwyntiau.

Lloegr 50 Cymru 10 (Mawrth 23, 2002)

Sicrhaodd Lloegr y Goron Driphlyg gyda pherfformiad dominyddol yn Twickenham.

Sgoriodd y maswr Jonny Wilkinson 30 o bwyntiau gyda phum trosiad, pedair cic gosb, cais a gôl adlam.

Y seren rygbi’r gynghrair Iestyn Harris sgoriodd holl bwyntiau Cymru, ond doedd y tîm ddim yn y gêm.

Hon yw colled fwyaf Cymru yn Twickenham yn y Chwe Gwlad hyd heddiw.

Lloegr 62 Cymru 5 (Awst 4, 2007)

Defnyddiodd prif hyfforddwr Cymru Gareth Jenkins daith haf i Twickenham i chwarae nifer o chwaraewyr ymylol cyn Cwpan y Byd yn Ffrainc yn ddiweddarach yn y flwyddyn.

Ond roedd yn gamgymeriad wrth i Loegr drechu Cymru o 62-5.

Sgoriodd yr wythwr Nick Easter bedwar o’r naw cais gafodd Lloegr, gyda Lawrence Dallaglio a Jason Robinson hefyd yn croesi.

Pasiodd Jonny Wilkinson 900 o bwyntiau rhyngwladol i Loegr wrth i Gymru wywo mewn tymheredd o 30 gradd Celsius yn Twickenham.