Mae disgwyl i Dan Biggar fod yn ffit i herio Lloegr yn Twickenham ôl yr hyfforddwr Sam Warburton.

Mae disgwyl penderfyniad terfynol ynghylch ffitrwydd y maswr fore Gwener (Mawrth 6), ar ôl iddo barhau i wella o anaf i’w benglin.

Mae George North hefyd ar gael yn dilyn pryderon am gyfergyd, ac mae Liam Williams a Josh Navidi bellach yn ymarfer gyda’r garfan unwaith eto.

Yn ôl Sam Warburton, mae’r arwyddion yn “bositif” o ran Dan Biggar, a does dim angen sgan ar ei goes.

“Rydyn ni’n hyderus ar hyn o bryd,” meddai.