Mae amheuon am ffitrwydd Dan Biggar cyn i dîm rygbi Cymru herio Lloegr ym Mhencampwriaeth y Chwe Gwlad ddydd Sadwrn (Mawrth 7).

Daeth y maswr oddi ar y cae wrth chwarae i’w glwb Northampton, a hynny yn sgil anaf i’w benglin.

Dim ond 20 munud barodd e, ond mae ei glwb yn dweud nad yw’r anaf yn ddifrifol, a bod rhaid “aros i weld” a fydd e allan am gyfnod.

Pe na bai e ar gael i deithio i Twickenham, mae’n debygol mai Jarrod Evans fyddai’n cymryd ei le, ar ôl bod yn eilydd ar gyfer y gemau yn erbyn yr Eidal, Iwerddon a Ffrainc.

Mae Gareth Anscombe a Rhys Patchell, ill dau, allan ar hyn o bryd ynghyd ag Owen Williams.