Mae tair Cymraes wedi cael eu cynnwys yng ngharfan estynedig rygbi saith bob ochr Prydain cyn y Gemau Olympaidd yn Tokyo fis Gorffennaf.

Bydd yr asgellwraig Jasmine Joyce, y ganolwraig neu faswraig Hannah Jones a’r fewnwraig Keira Bevan yn teithio i’r Alban ddydd Mercher (Chwefror 26) i gymryd rhan yn y gwersyll  hyfforddi cyntaf o dri cyn i’r garfan derfynol gael ei dewis.

Mae Jasmine Joyce eisoes wedi cynrychioli Prydain, yn y Gemau Olympaidd yn Rio.

“Un o fy hoff atgofion o Rio oedd sgorio fy nghais cyntaf mewn Gemau Olympaidd a gwnaeth y ffaith fod fy nheulu, gan gynnwys fy nhaid, yn y dorf y foment yn fythgofiadwy,” meddai Jasmine Joyce.

“Mae’n gyfle annisgwyl ond cyffrous i mi. Mi fydd yno lot o gystadleuaeth ond bydd hynny’n dda i bawb yn y hir dymor,” meddai Keira Bevan.

Yn dilyn y gwersyll hyfforddi yng Nghaeredin, bydd gwersyll yng Nghymru a Lloegr.

“Mae’n wych fod yna dair o chwaraewyr Cymru yn y garfan estynedig,” meddai Ollie Phillips, prif hyfforddwr rygbi saith bob ochr merched Cymru.

“Mae ganddyn nhw oll y sgiliau a’r proffesiynoldeb i herio am le yn y garfan derfynol.”