Mae Eddie Jones, prif hyfforddwr Lloegr, wedi rhybuddio Cymru fod gwell eto i ddod ar ôl i’w dîm guro Iwerddon 24-12 dros y penwythnos, ac yn ffyddiog bydd ei garfan “10%  yn well yn erbyn Cymru”.

Ar ôl colli yn erbyn Ffrainc bydd Cymru yn wynebu Lloegr yn Twickenham ymhen pythefnos (Mawrth 7).

“Fe wnaethon ni gymryd cam arall ymlaen yn erbyn Iwerddon, a dwi’n disgwyl i ni gymryd cam arall ymlaen wrth chwarae yn erbyn Cymru,” meddai Eddie Jones.

“Gêm fwyaf erioed”

“Heb os, pan mae Lloegr yn chwarae yn erbyn Cymru dyna yw’r gêm fwyaf erioed, a bydd y gêm yma ddim gwahanol.

“Rydyn ni’n fwy ffit, ac mae gwell eto i ddod yn erbyn Cymru.”

Ychwanegodd ei fod wedi gweld newid yn sut mae Cymru yn chwarae ers i Wayne Pivac gael ei benodi yn brif hyfforddwr:

“Maen nhw’n chwarae ychydig yn wahanol ac yn beryglus gyda’r bêl – bydd rhaid i ni gael golwg agosach ar hyn dros yr wythnosau nesaf.”