Mae tîm rygbi marched Cymru wedi cael crasfa o 50-0 yn erbyn Ffrainc yng Nghaerdydd.

Sgoriodd yr ymwelwyr wyth cais, gyda phum trosiad yn dod oddi ar droed Jessy Tremouliere.

Roedd dau gais yr un i’r asgellwraig Cyrielle Bannet a’r fewnwraig Laure Sansus, ac un yr un i’r clo Safi N’Diaye, yr asgellwraig Marine Menager, y flaenasgellwraig Julie Annery a’r eilydd Camille Boudaud.

Daeth y rhan fwyaf o’r pwyntiau yn yr ail hanner, gyda’r sgôr yn 19-0 ar yr egwyl.

Mae’n golygu bod Cymru’n bumed yn nhabl Pencampwriaeth y Chwe Gwlad ar ôl colli’r ddwy gêm gyntaf.