Mae Wayne Pivac, prif hyfforddwr tîm rygbi Cymru, wedi cwestiynu nifer o benderfyniadau’r dyfarnwr Matt Carley ar ôl gweld ei dîm yn colli o 27-23 yn erbyn Ffrainc ym Mhencampwriaeth y Chwe Gwlad yng Nghaerdydd neithiwr (nos Sadwrn, Chwefror 22).

Mae’n dweud bod sawl penderfyniad wedi costio’n ddrud pan oedd Cymru ar y droed flaen yn y gêm, wrth i’r Ffrancod ennill gêm bencampwriaeth yng Nghaerdydd am y tro cyntaf ers degawd – a Chymru’n colli gartref am y tro cyntaf ers 2017.

Chafodd Paul Willemse ei gosbi gyda chwarter awr yn weddill pan darodd e’r bêl i lawr o afael Josh Adams wrth iddo geisio derbyn pàs gan Ken Owens, ond roedd rhai o’r farn y dylai Cymru fod wedi cael cais cosb.

Ac mae’n beirniadu’r eilydd o brop Demba Bamba am darfu ar y sgrym.

“Roedd sawl eiliad allweddol yn y gêm honno,” meddai Wayne Pivac.

“Roedd hi’n ymddangos, pan oedden ni’n chwarae mantais, fod y sgarmes nesa’n cael ei lladd neu fod y bêl yn cael ei harafu fel ein bod ni’n dychwelyd ar gyfer cic gosb.

“Cawson ni sawl cip ar [Willemse] ac yn teimlo bod y swyddogion wedi cael hwnnw’n anghywir.

“Fe laddodd hwnnw’r momentwm i ni hefyd.”

‘Dim panig’

Er y siom o golli’r ail gêm yn olynol ar ôl y golled yn Nulyn, mae Wayne Pivac yn benderfynol na fydd Cymru’n mynd i banig ar drothwy taith i Twickenham i herio Lloegr.

“Mae’n fater o adeiladu.

“Fe wnaethon ni greu llawer o gyfleoedd a dw i’n meddwl ein bod ni’n symud i’r cyfeiriad cywir.

“Mae’n fater o fanteisio ar y cyfleoedd.

“Os gwnawn ni drosi un neu ddau yn rhagor, byddwn ni’n cystadlu mewn gemau ac yn ennill.”

Bydd Cymru’n asesu ffitrwydd Josh Adams a George North cyn y gêm nesaf ar Fawrth 7.

Gadawodd George North y cae ar ôl deng munud ag anaf i’w ben, ac fe wnaeth e fethu asesiad i’r pen.

Anafodd Josh Adams ei ffêr.