Mae Alun Wyn Jones yn dweud ei fod e eisiau canolbwyntio ar y rygbi ac nid ar frwydrau geiriol cyn i dîm rygbi Cymru herio Ffrainc ym Mhencampwriaeth y Chwe Gwlad yng Nghaerdydd yfory (dydd Sadwrn, Chwefror 22).

Fe fu’n ymateb i sawl ffrae rhwng y naill dîm a’r llall yn y dyddiau cyn yr ornest yn Stadiwm Principality.

Mae’r prop Wyn Jones wedi dweud ei fod e’n disgwyl i Ffrainc “daro a chwrso a thwyllo” yn y sgrym, ac mae Fabien Galthie, prif hyfforddwr y Ffrancod, o fod yn amharchus.

Yn ei dro, mae Raphael Ibanez, rheolwr Ffrainc, wedi beirniadu Cymru am y modd y gwnaethon nhw ymdrin â’r ergyd i ben Dan Biggar yn Iwerddon bythefnos yn ôl.

“Mae’n rhyfedd,” meddai Alun Wyn Jones wrth ymateb i’r cyfan.

“Dw i’n meddwl y gall y cywair, y cyd-destun a’r iaith sy’n cael ei defnyddio gael ei gymryd yn wael.

“Do’n i ddim yn y gynhadledd i’r wasg ond dw i’n credu ei fod wedi hybu dadl i rai.

“Nid fy ngeiriau i ydyn nhw.”

‘Parch’

Yn hytrach na diffyg parch, mae Alun Wyn Jones yn credu mai allan o barch at Ffrainc y daeth sylwadau Wyn Jones.

“Os rhywbeth, dw i’n llwyr i’r gwrthwyneb – ond daeth y geiriau allan o barch i’r hyn yw rygbi yn Ffrainc ers nifer o flynyddoedd, sef pac sy’n dominyddu a chreadigrwydd y tu ôl iddyn nhw.

“Mae’n debyg ei fod yn deillio o barch tuag atyn nhw yn hytrach na diffyg parch, ond fy marn i yw hynny.

“Yn y pen draw, ry’n ni eisiau cydymffurfio â’r rheolau a sicrhau eu bod nhw’n cael eu gweinyddu’n gywir.

“Do’n i ddim eisiau i hyn fod yn bwnc trafod. Y rygbi ddylai gael ei drafod a’r gêm yn ei chyfanrwydd a’r Chwe Gwlad, ac nid y rhyfeddodau o reidrwydd.

“Oherwydd fe allen ni fynd yn ein blaenau i drafod y rheolau, rheolau’r sgarmes, ac fe allen ni fod yma am ddwy awr arall ac fe allwn i fethu rhediad y tîm.

“Ond gobeithio mai’r gêm a’r achlysur fyddwn ni’n eu trafod ar ôl y gêm.”