Ar ôl 12 mlynedd o weithio ochr yn ochr â Warren Gatland yng Nghymru, mae chwaraewyr Cymru’n hen gyfarwydd â ffordd Shaun Edwards o chwarae.

Ac yntau bellach gyfrifol am amddiffyn Ffrainc, gall hyn fod o fantais i Gymru ddydd Sadwrn, yn ôl Jake Ball, chwaraewr ail reng Cymru.

“Yn amlwg rydyn ni’n adnabod Shaun yn eithaf da, rydyn ni’n gwybod sut mae’n hoffi chwarae, felly bosib gallai hynny roi ychydig o fantais i ni.

“Mae ei ôl ar gemau cyntaf Ffrainc yn amlwg, ond o’n safbwynt ni mae gennym dîm amddiffynnol newydd hefyd.”

Bydd Jake Ball yn ennill cap rhif 45 yn erbyn Ffrainc ddydd Sadwrn ac mae’n credu y bydd torf Stadiwm y Principality yn rhoi hwb enfawr i Gymru yn erbyn Ffrainc y penwythnos yma.

“Pan ar y cae, rydych yn tueddu i ganolbwyntio ar y gêm.

“Er hynny, weithiau yn yr eiliadau allweddol o’r gêm, pan fydd y chwarae yn stopio neu gic gosb i’r gornel, rydych chi’n ei glywed y dorf ac yn teimlo’u hegni hwnnw.

“Does dim amheuaeth bod hynny o fantais i ni.”

Adleisiodd y prif hyfforddwr, Wayne Pivac, hyn hefyd wrth enwi ei dim ar gyfer y gêm.

Dywedodd Wayne Pivac: “Mi fydd y Stadiwm dan ei sang ddydd Sadwrn, bydd yr awyrgylch yn drydanol a bydd hi’n ddiwrnod mawr yn y brifddinas.”