Mae Gareth Davies yn dweud ei fod yn barod i ddefnyddio’r sgiliau a ddysgodd gan Shaun Edwards, wrth i Gymru herio Ffrainc ym Mhencampwriaeth y Chwe Gwlad yr wythnos nesaf.

Wedi blynyddoedd llwyddiannus yn hyfforddi amddiffyn Cymru, mae Shaun Edwards bellach yn hyfforddi’r Ffrancod.

Yn ystod ei gyfnod yn hyfforddi amddiffyn Cymru, enillodd y tîm cenedlaethol dair Camp Lawn a phedair pencampwriaeth y Chwe Gwlad, gan gyrraedd rownd gynderfynol Cwpan y Byd ddwywaith.

Ac roedd Gareth Davies ymhlith y rhai a elwodd fwyaf o wybodaeth Shaun Edwards, gan ddweud iddo ddysgu sut i ddarogan symudiadau gwrthwynebwyr a sut i ryng-gipio’r bêl er mwyn sgorio ceisiau.

“Roedd hi’n fater o wneud lot o waith dadansoddi a gweld sut mae timau eraill yn chwarae,” meddai.

“Byddwn i’n cael sgyrsiau gyda fe ac fe fyddai’n dweud wrtha i beth roedd e’n disgwyl i’r gwrthwynebwyr ei daflu aton ni, fel y byddwn i’n gallu cyrraedd y llinell flaen bob hyn a hyn a chasglu ambell i bàs.

“Roedd e’n gywir gryn dipyn o’r amser.

“Dw i wedi rhyng-gipio sawl gwaith ar ôl gwneud y gwaith dadansoddi ro’n i’n arfer ei wneud gyda fe.

“Dw i’n gwneud tipyn o’r gwaith hwnnw ar fy mhen fy hun nawr, felly gobeithio y galla i gasglu un yn erbyn Ffrainc.”

Darogan tactegau Shaun Edwards

Mae Shaun Edwards yn hyfforddwr amddiffyn Ffrainc ar ôl derbyn cytundeb pedair blynedd yn hytrach na’r cytundeb dwy flynedd oedd yn cael ei gynnig gan Undeb Rygbi Cymru.

Roedd ei ymadawiad yn destun siom i chwaraewyr Cymru, yn ôl Gareth Davies.

“Roedden ni braidd yn siomedig ei fod e wedi ein gadael ni, ond ry’n ni wedi cael Byron [Hayward] yn dod i mewn a gwneud gwaith gwych,” meddai.

“Dw i’n credu bod pawb yn nabod Shaun yn eitha’ da, mae e’n hyfforddwr amddiffyn o safon fyd-eang.

“Ry’n ni’n canolbwyntio’n fawr cyn y gêm yn erbyn Ffrainc ar sut i dorri’r amddiffyn i lawr.

“Ry’n ni’n gwybod ei fod yn eitha’ anodd i’w dorri i lawr gan fod ganddo bolisi amddiffyn da, felly byddwn ni’n gwneud tipyn o waith wrth ymarfer.”