Mae disgwyl i Dan Biggar fod yn holliach i wynebu Ffrainc ym Mhencampwriaeth y Chwe Gwlad yr wythnos nesaf.

Bu’n rhaid i faswr Cymru adael y cae ar ôl cael ergyd i’r pen yn y gêm yn erbyn Iwerddon yr wythnos ddiwethaf, ac fe fethodd e asesiad i’r pen yn ddiweddarach.

Mae’n dilyn protocol ar hyn o bryd, a’r disgwyl yw y bydd hwnnw wedi dod i ben erbyn y penwythnos nesaf.

Fe fydd Cymru’n fwy gofalus nag arfer o ran Dan Biggar, ar ôl iddo ddioddef sawl ergyd i’r pen yng ngemau’r hydref ac mae’n siŵr y byddan nhw’n awyddus i osgoi’r trafferthion gafodd George North am yr un rheswm dros y blynyddoedd diwethaf.

Safle’r maswr

Pe na bai Dan Biggar yn gwella mewn da bryd, fe allai Cymru orfod ad-drefnu’r garfan yn absenoldeb sawl chwaraewr arall yn y safle hwnnw.

Mae Gareth Anscombe a Rhys Patchell allan o hyd, ac fe ddaeth cadarnhad yn ddiweddar na fydd Owen Williams ar gael am weddill y gystadleuaeth ar ôl cael ei anafu yn Nulyn.

Mae’n golygu mai Jarrod Evans yw’r unig faswr ar ôl yn y garfan.

Wrth gyfarfod â’r wasg heddiw (dydd Iau, Chwefror 13), cafodd enwau Angus O’Brien, Sam Davies a Dan Jones eu crybwyll, ynghyd â Sam Costelow, maswr tîm dan 20 Cymru.