Mae Justin Tipuric yn dweud fod gan dîm rygbi Cymru “obaith” o hyd o ennill Pencampwriaeth y Chwe Gwlad.

Fydd tîm Wayne Pivac ddim yn ennill y Gamp Lawn, ar ôl colli o 24-14 yn erbyn Iwerddon yn Nulyn brynhawn ddoe (dydd Sadwrn, Chwefror 8) wrth fynd am nawfed buddugoliaeth o’r bron yn y gystadleuaeth.

Fe fyddan nhw’n herio Ffrainc yng Nghaerdydd ar Chwefror 22.

“Mae cynifer o dimau da a gall unrhyw un droi rhywun arall drosodd unrhyw ddiwrnod,” meddai’r blaenasgellwr.

“Mae’n dwrnament hir.

“Fyddwn ni ddim yn ennill y Gamp Lawn ond mae gyda ni obaith o hyd o ennill [y bencampwriaeth].

“Gall unrhyw beth ddigwydd ar unrhyw ddiwrnod.”

Mae Cymru heb fuddugoliaeth yn y Chwe Gwlad yn Iwerddon ers 2012.