Fe fydd undod carfan rygbi merched Cymru yn eu helpu i daro’n ôl ar ôl colli o 19-15 yn erbyn yr Eidal yr wythnos ddiwethaf, wrth iddyn nhw deithio i Donnybrook i herio Iwerddon ddydd Sul (Chwefror 9), yn ôl Manon Johnes.

Fe fu’r chwaraewraig reng ôl 19 oed, sy’n gyn-ddisgybl Ysgol Glantaf, yn siarad â golwg360 ar drothwy taith i Donnybrook, lle bydd hi’n dechrau gêm am y tro cyntaf eleni ar ôl gwella o anaf i’w choes.

Mae hi’n un o ddau newid yn y tîm, ynghyd â’r flaenasgellwraig arall, Alisha Butchers, sydd hefyd yn dechrau am y tro cyntaf eleni.

“Fi’n credu bo ni’n siomedig ddim i allu trawsnewid pa mor fygythiol o’n ni’n gallu bod wrth ymosod ar adegau i mewn i fwy o geisiau,” meddai.

“Ni wedi gwella lot yn nhermau faint o amser ni’n treulio yn 22 y tîm arall, a thrawsnewid hynny mewn i geisiau.

“Ond o’n ni’n methu cadw’r bêl am ddigon o amser i allu cael rhagor o geisiau.

“Ro’n ni wedi amddiffyn yn arbennig ar adegau, ac wedi amddiffyn am saith munud o fewn ein 22 ein hunain.

“Ond o edrych ar y penwythnos yma, hoffen ni gadw’r bêl am fwy o amser fel bo ni’n gallu cael mwy o geisiau.”

Her wahanol

Yn dilyn gêm gorfforol yn erbyn yr Eidal, lle bu’n rhaid i Gymru amddiffyn am gyfnodau helaeth, mae hi’n disgwyl gêm wahanol yn Iwerddon.

“Byddan nhw’n defnyddio’r blaenwyr yn fwy na’r olwyr ar adegau, ond maen nhw’n gweithio’n dda fel tîm, felly rhaid i ni roi lot o bwysau ar y deg hefyd.

“Mae colled ond yn gwneud i ni moyn profi pwynt i’n hunain mwy na dim. Dyn ni ddim yn poeni am bobol allanol ond yn fewnol, ni moyn profi pa mor bell ydyn ni wedi dod.”

Cydbwysedd

Rhan o’r llwyddiant hwnnw, meddai, yw’r gallu i blethu chwaraewyr ifainc i mewn i garfan brofiadol.

Mae’n dweud bod yna agosatrwydd o fewn y garfan hefyd sy’n eu helpu nhw ar y cae.

“Ni wedi cael cydbwysedd da o ran chwaraewyr profiadol a newydd hefyd.

“Mae Siwan [Lillicrap] yn gapten grêt hefyd, ac yn cyfuno pawb fel uned.

“Ni’n siarad lot amdanon ‘ni’ fel uned a’r pwyslais ar yr uned, ac wedi gwneud llawer o weithdai ar ein safonau’n hunain.

“Mae cwestiynu’n hunain o fewn y garfan ond wedi ein gwneud ni’n fwy clos, ni’n treulio llawer o benwythnosau gyda’n gilydd ac ry’n ni’n gweld ein gilydd mwy na’n teuluoedd weithiau!”

Seicoleg

Yr un mor bwysig, os nad yn bwysicach efallai, yw’r gred sydd gan y merched eu bod nhw’n gallu ennill pob gêm.

“Mae seicoleg yn bwysig iawn i gael cred bo ni’n gallu ennill.

“Mae seicoleg mewn unrhyw chwaraeon yn hollbwysig oherwydd chi angen bod yn gryf yn feddyliol i allu trawsnewid hynny’n berfformiad corfforol.

“Ni wedi gweithio llawer ar ein seicoleg ni a chredu bo ni’n cael bod yn y garfan a bo ni’n gallu profi i bobol eraill bo ni’n cael bod yn y garfan.”