Mae Wayne Pivac yn dweud bod gan dîm rygbi Cymru “ddigon i adeiladu arno” ar ôl iddyn nhw chwalu’r Eidal o 42-0 yn Stadiwm Principality yng Nghaerdydd heddiw (dydd Sadwrn, Chwefror 1).

Dywed y prif hyfforddwr ei fod e’n bles o fod wedi cadw llechen lân, wrth i rediad siomedig yr Eidal heb fuddugoliaeth yn y bencampwriaeth ymestyn i 23 o gemau.

Bydd sylw Cymru nawr yn troi at daith i Ddulyn i herio Iwerddon yn eu gêm nesaf ddydd Sadwrn nesaf (Chwefror 8).

“Fe gawson ni’r pum pwynt roedden ni’n eu cwrso,” meddai ar ddiwedd y gêm.

“[Ry’n ni’n] falch o fod wedi gwneud hynny, yn falch o fod wedi’u cadw nhw’n ddi-sgôr.

“Dydy hynny ddim yn digwydd yn aml iawn ar y lefel yma.”

Ond mae’n teimlo bod y tîm wedi ymdrechu’n rhy galed ar adegau.

“Roedd y bois yn gweithio’n galed iawn.

“Maen nhw eisiau chwarae mwy ac ar adegau, fe wnaethon ni gyflawni hynny ond ar adegau, fe wnaethon ni chwarae gormod.”

Gwendidau

Er i’w dîm ddechrau’r gystadleuaeth yn gryf, mae’n dweud bod angen gwneud mwy o waith yn y chwarae gosod.

“Cawson ni ein dal allan eitha’ tipyn yn ystod yr hanner cyntaf, gydag ambell i dafliad.

“Mae’n fater o sicrhau ein bod ni’n aros ar ddihun.

“Roedd y sgrym braidd yn flêr ar adegau.

“Mae digon o i adeiladu arno, ac mae hynny’n fy mhlesio.”

Canmol Byron Hayward

Ar ôl osgoi ildio’r un pwynt, mae Wayne Pivac yn canmol Byron Hayward, hyfforddwr yr amddiffyn.

“Mae e’n gweithio’n galed, fel mae’r holl hyfforddwyr yn ei wneud.

“Mae e’n gweithio gyda’r bois yn unigol a gyda’i gilydd.

“Ry’n ni’n gweithio ar wneud penderfyniadau – wnaethon ni ddim gwneud y penderfyniadau iawn bob tro heddiw.

“Ond dw i’n falch iawn dros Byron.”