Mae Taulupe Faletau yn dweud ei fod e wedi amau ei allu yn dilyn dwy flynedd allan o’r gêm oherwydd cyfres o anafiadau.

Dyw’r wythwr ddim wedi chwarae i Gymru ers iddo fe anafu ei ysgwydd ym Mhencampwriaeth y Chwe Gwlad fis Mawrth 2018.

Yn y cyfnod ers hynny, mae e wedi torri ei fraich ddwywaith ac wedi cael anaf i’w ben-glin.

Ac fe fu’n rhaid iddo fe golli Cwpan y Byd yn yr hydref ar ôl cael llawdriniaeth i drin anaf i bont yr ysgwydd.

Ond mae’n dychwelyd i’r tîm ddydd Sadwrn ar gyfer cap rhif 73, a gêm gynta’r prif hyfforddwr newydd, Wayne Pivac wrth y llyw.

Y chwaraewyr y naill ochr a’r llall iddo fydd Aaron Wainwright a Justin Tipuric.

“Fe ddigwyddodd eitha’ tipyn yn ystod y cyfnod hwnnw, a dw i jest yn falch o gael dychwelyd i’r cae,” meddai.

“Roedd fy ngêm gyntaf yn ôl [i’w glwb Caerfaddon] fel cael rhedeg allan i’r Dreigiau am y tro cyntaf – roedd amser hir wedi mynd heibio.

“Ro’n i’n sicr yn nerfus.

“Ar un adeg, mae dyn yn dechrau meddwl a yw’n gallu chwarae rygbi o hyd.

“Dw i jest yn falch o bod allan yno’n chwarae.”

Cwpan y Byd

Mae’r chwaraewr 29 oed yn cyfaddef fod gorfod colli Cwpan y Byd yn Japan yn ergyd drom.

“Roedd hi’n anodd o’r dechrau.

“Do’n i ddim wedi chwarae rygbi o gwbl [ar ôl anaf arall] ac roedd hynny wedi ei gwneud hi’n fwy anodd fyth, gan bo fi wedi meddwl y byddwn i ar gael i chwarae ambell gêm gyfeillgar cyn Cwpan y Byd i gael gweld a fyddai cyfle i fi hawlio lle.

“Ond wnes i ddim cyrraedd y pwynt hwnnw, ac roedd hynny’n beth anodd.”

Edrych ymlaen

Dim ond edrych ymlaen y bydd e ar drothwy’r gystadleuaeth newydd, ac mae’n dweud ei fod e’n edrych ymlaen at redeg allan yn Stadiwm Principality ddydd Sadwrn.

“Pan ydych chi i ffwrdd am gyfnod mor hir, mae’n siŵr y bydda i’n edrych ymlaen yn fwy fyth.

“Mae cael rhedeg allan o flaen y dorf yn anhygoel, a does unman yn debyg i Stadiwm Principality.

“Dw i wedi bod i ffwrdd am ychydig, a bydda i’n ymdrechu’n fwy i geisio gwneud y mwya’ o’r adegau dw i’n cael chwarae.”