Mae cyn gspten rygbi Cymru Gareth Thomas wedi dweud ei fod wedi’i “frifo” gan benderfyniad Catalans Dragons i arwyddo Israel Folau.

Cafodd Israel Folau ei ddiswyddo gan Rugby Australia fis Mai 2019 am wneud sylwadau homoffobig ar gyfryngau cymdeithasol.

Dywedodd bod “uffern yn disgwyl” am bobl hoyw.

Dywed Gareth Thomas y bydd yn gwrthod gwylio unrhyw gemau lle mae’r asgellwr yn chwarae.

“Mae Folau wedi ymuno â’r @SuperLeague. Mae hyn wedi fy mrifo gan fod y gêm, chwaraewyr, a’r cefnogwyr yn dda iawn gyda mi,” meddai Gareth Thomas ar Twitter.

“Yr oll dwi’n gobeithio yw bod y chwaraewyr a’r cefnogwyr yn ymateb. Wna i byth ei wylio’n chwarae.”