Mae Justin Tipuric yn dweud ei fod e’n deall pam fod Louis Rees-Zammit yn cael ei gymharu â George North.
Gallai’r asgellwr 18 oed sy’n chwarae i Gaerloyw gael ei ddewis yn nhîm Cymru i herio’r Eidal ar ddiwrnod cyntaf Pencampwriaeth y Chwe Gwlad ddydd Sadwrn (Chwefror 1), ddegawd ar ôl i George North wisgo’r crys coch am y tro cyntaf.
Ar ôl bod yn aelod o dîm ieuenctid y Gleision, fe gafodd ei addysg yng Ngholeg Hartpury cyn ymuno ag Academi Caerloyw.
Fe oedd chwaraewr ieuengaf erioed ei glwb yn Uwch Gynghrair Lloegr, a’r chwaraewr 18 oed cyntaf i sgorio hatric o geisiau, a hynny wrth i’w glwb golli o 33-26 yn erbyn Northampton.
“Pan ddywedodd rhywun y diwrnod o’r blaen ei fod e wedi cael ei eni yn 2001, bu bron i fi lewygu!” meddai’r blaenasgellwr wrth gyfarfod â’r wasg. “Fe wnaeth i fi deimlo’n hen, yn sicr!
“O gofio’i fod e’n 18 oed, un peth gallwch chi ei ddweud amdano fe yw fod ganddo fe lot fawr o dalent. Fe welwch chi hynny ar y cae.
“Dydych chi ddim eisiau rhoi rhyw lawer o le iddo fe oherwydd mae’n mynd i wneud i chi edrych yn dwp. Mae e’n foi mawr, yn sicr.
“Wrth i’r ymgyrch fynd yn ei blaen, dw i’n siŵr y gwelwn ni fwy ohono fe.
“Mae tipyn o sôn wedi bod am y tebygrwydd rhyngddyn nhw a maint y ddau ohonyn nhw, eu cyflymdra a’r doniau sydd ganddyn nhw, felly galla i ddeall pam fod pobol yn eu gosod nhw yn yr un categori.
“Mae ganddyn nhw eu stamp eu hunain i’w osod, ond byddai unrhyw un yn y categori hwnnw’n eitha’ hapus.”
Dyfnder yn y rheng ôl
Wrth drafod ei safle ei hun yn y rheng ôl, mae Justin Tipuric yn credu bod gan Gymru gryn ddyfnder yn y garfan.
Mae Wayne Pivac, y prif hyfforddwr newydd, wedi enwi chwe chwaraewr yn y rheng ôl – fe ei hun, Aaron Shingler, Aaron Wainwright, Taulupe Faletau, Ross Moriarty a Josh Navidi.
“Mae’n eitha’ brawychus, a bod yn onest. Ry’n ni bob amser yn dweud yng Nghymru fod y dyfnder yn rheng ôl yn syfrdanol.
“Hyd yn oed pe bai’r chwech ohonon ni’n cael anafiadau a bod tri arall yn dod i mewn i’r tîm, ychydig iawn o wahaniaeth fyddai o ran y dyfnder sydd gyda ni yng Nghymru.”
Taulupe Faletau yn dychwelyd
Un chwaraewr yn y rheng ôl y bydd e’n falch o’i weld wrth ei ochr yn y sgrym yw Taulupe Faletau, sy’n dychwelyd ar ôl colli Cwpan y Byd oherwydd anaf i’w ysgwydd.
Ac mae Justin Tipuric yn dweud ei fod e’n falch o gael ei gyd-letywr yn ei ôl.
“Mae’n siŵr ’mod i wedi gweld ei eisiau fe’n fwy nag arfer gan mai fe sydd wedi bod yn rhannu ystafell gyda fi dros y blynyddoedd diwethaf,” meddai.
“Mae’n dda ei gael e’n ei ôl ymhlith y bois eraill. Fel rydych chi’n gwybod, mae e’n chwaraewr o safon fyd-eang.
“Hyd yn oed o ran yr wythwyr eraill sydd gyda ni, mae cymaint o chwaraewyr o’r radd flaenaf.
“Mae pob un o’r chwech ohonon ni’n ceisio codi llaw i hawlio’r lle yn y tîm ar y penwythnos.”
Ond beth sy’n gwneud Taulupe Faletau mor arbennig, tybed?
“Fel y gwelwch chi ar y cae, mae e jest yn dipyn o foi. Hyd yn oed nawr, ar ôl popeth mae e wedi’i gyflawni yn y gêm, mae e mor ddiymhongar hefyd.
“Fel chwaraewr mor broffesiynol, mae e’n helpu pawb o’i gwmpas e yn y garfan hefyd.
“Ond mae’n siŵr ei fod e’n gwneud yr holl siarad ar y cae. Mae e’n eitha’ preifat, dw i’n meddwl. Dyw rhai ohonon ni ddim yn allblyg ac yn cadw pethau’n dawel. Ond mae e’n hoff o chwyrnu, cofiwch!
“Does dim gwendidau yn ei gêm, o gario’r bêl i’r lein. Croesi bysedd y caiff e dipyn o lwc o ran anafiadau.”
Sam Warburton yr hyfforddwr
Mae un o’i gyn gyd-chwaraewyr, Sam Warburton bellach yn aelod o dîm hyfforddi Wayne Pivac, ac mae’n golygu cyfnod o addasu i’r rheiny sy’n dal i’w gofio ar y cae gyda nhw.
“Mae e ychydig yn wahanol ond rydych chi’n dod yn gyfarwydd â fe.
“Mae Sam wedi gosod ei stamp ar ardal y dacl a’r hyn mae e eisiau ei wneud, sydd ychydig yn wahanol i’r hyn rydyn ni wedi dod i arfer â fe yn y gorffennol.
“O gydweithio â Byron [Hayward, yr hyfforddwr amddiffyn], maen nhw’n tocio ambell beth sydd yn mynd i’n gwella ni yn y dyfodol.”