Bydd prif hyfforddwr newydd Cymru Wayne Pivac wrth y llyw am y tro cyntaf mewn gêm Pencampwriaeth y Chwe Gwlad yn erbyn yr Eidal ddydd Sadwrn (Chwefror 1).

Isod mae, golwg360 wedi edrych ar y rhifau tu ôl i olynydd Warren Gatland

57 – Oedran Wayne Pivac.

4 –  Hyd cytundeb Wayne Pivac gyda Chymru.

38 – Y nifer o chwaraewyr yng ngharfan Chwe Gwlad Wayne Pivac.

27 –  Oedran Wayne Pivac pan ddaeth ei yrfa chwarae i ben oherwydd anaf i’w ben-glin.

5 –  Sawl blwyddyn dreuliodd yn hyfforddi’r Scarlets.

43 – Y nifer o bwyntiau sgoriodd Cymru yng ngêm gyntaf Wayne Pivac wrth y llyw yn erbyn y Barbariaid.

23 – Y nifer o flynyddoedd mae Wayne Pivac wedi bod yn hyfforddwr rygbi.

 2 – Timau rhyngwladol mae Wayne Pivac wedi eu hyfforddi (Ffiji a Chymru).

8 – Y nifer o gemau bydd Cymru wedi ennill yn olynol ym Mhencampwriaeth y Chwe Gwlad os y byddan nhw’n trechu’r Eidal ddydd Sadwrn.